Duw sydd a’r gair olaf….

Fe fynychais rai o gyfarfodydd cynhadledd Mudiad Efengylaidd Cymru (MEC) wythnos diwethaf. Cwynodd llawer un wrtha i fod y blog yn dawel yn ddiweddar ac yn fwy penodol ei fod yn dawel yn gwyntyllu issue’s cyflwr yr Eglwys yng Nghymru heddiw. Dywedodd un gweinidog wrtha i “Wi’n gweld ishe dy all to honest opinions am bethe efengylaidd”. Wel dyma dorri’r tawelwch. Ro’n i ar raglen John Roberts (Bwrw Golwg, Radio Cymru) fore Sul yn trafod sut aeth y gynhadledd. Am y bythefnos cyn hynny roedd John wedi bod yn codi cwestiynau am Gymreigrwydd y mudiad gyda Dafydd Job a Peter Hallam. Ro’n i felly wedi paratoi nodiadau er mwyn rhoi fy ymateb i OND nid oedd cyfle i John gyrraedd y mater yna cyn i griw ‘Papur a Phaned’ gymryd drosto ar y gwasanaeth cenedlaethol. Ysywaeth fe amlinellaf yn awr yr hyn buaswn wedi dweud:

  • Mae consyrn mawr ar hyn o bryd gan lawer o bobl am dystiolaeth Gristnogol Gymraeg yng Nghymru. Roeddwn i, serch hynny, am bwysleisio fod y consyrn yna ddim yn egsgliwsif i waith MEC. Hynny yw dwi yn poeni fod dim digon o weithgarwch Cymraeg yn digwydd ond mae’r consyrn am yr Eglwys gyfan yng Nghymru; dim ond rhan o’r consyrn yw MEC yn benodol.

  • Roeddwn i am ddweud fod cenhadaeth Gymraeg ar groesffordd (h.y. Y Gymru ymneilltuol bron a’i cholli’n llwyr a’r Gymru Seciwlar yma i aros) ac bod hi’n bwysig i MEC ail ystyried beth yw ei phwrpas hi yn y Gymru seciwlar yn hytrach na’i rol wreiddiol yn y Gymru ymneilltuol ryddfrydol. Yn ymarferol fe olyga hyn beidio dyblu ar waith mudiad arall; e.e. Fe soniodd rhywun wythnos diwethaf am y posibilrwydd o roi nodiadau beiblaidd ar wefan MEC yn Gymraeg. Ond rhaid gofyn os oes pwynt i hynny gan fod beibl.net yn cynnig y math yma o wasanaeth eisoes?

  • Mae’n wir fod rhanfwyaf o staff MEC ar hyn o bryd yn ddi-Gymraeg OND nid oedd yna gonsensws i roi ‘give-up’ ar waith Cymraeg MEC, er fod un uchel ei gloch wedi lled awgrymu hyn. Serch hynny ni allaf weld fod cario mlaen ar status quo o gael ond un aelod o staff yn medru’r Gymraeg yn opsiwn; dan y drefn leiafrifol yma mae’r gwaith Cymraeg yn sicr o ddirywio. Os rhywbeth, gan fod Eglwysi Cymraeg yn llai eu maint ac yn llai niferus yng Nghymru, rhaid i’r ochr Gymraeg gael MWY o staff ac adnoddau na’r ochr Saesneg – positive discrimination fel petae er mwyn gwneud fyny am y diffyg tystiolaeth ar lawr gwlad yn Gymraeg. Soniodd Dafydd Job fod yna swydd Gymraeg i’w llenwi ond fod neb wedi dangos diddordeb ynddi – o bosib fod y ffaith fod y swyddfa yn Mhen-y-bont ar Ogwr yn issue fan yna. Beth am ddarganfod y gweithwyr ac yna gofyn iddynt lle y buasent am weithio?

  • Y cwestiwn terfynol ynghlyn a tystiolaeth Gymraeg yng Nghymru (nid MEC yn benodol sylwer) yw’r issue o’r trwch sylweddol o Gymry Cymraeg sy’n ymroi i eglwysi a gweithgaredd Saesneg ar draul eglwysi a thystiolaeth Gymraeg. Mae’n wir fod rhai eglwysi Saesneg yn gefnogol iawn i waith Cymraeg (gallaf dystio fod rhywun fel Martin Williams sy’n weinidog ar eglwys Saesneg ond sy’n cefnogi gweithgarwch Cymraeg pob cyfle y caiff; David Ollerton hefyd yn Gymeriad o’r ‘ochr Saesneg’ sydd a gwaith Cymraeg ar ei galon) ond mae hefyd yn wir fod rhai eglwysi mawr fel St Mikes yn Aber a Highfields yng Nghaerdydd a nifer o Gymry Cymraeg ond sydd yn ymddieithrio o dystiolaeth Gymraeg ac felly yn gwneud hi yn anoddach i’r eglwysi llai Cymraeg sydd dal yn ceisio cenhadu i’r genedl hon.

Ond fel y dywed y diweddar R. Tudur Jones ar ddiwedd pob dadl; “Duw sydd a’r gair olaf….”

Please follow and like us:

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.