Dwi ddim yn blogio’n aml am fy ngwaith dydd i ddydd fel Gweinidog a hynny am resymau da. Mae natur llawer o waith Gweinidog yn bersonol ac felly dwi ddim yn meddwl byddai aelodau yr eglwys yn hapus iawn mod i’n adrodd holl hynt a helynt pawb ar y blog. Dydy e ddim yn gyfrinach fod gwaith Gweinidog (a gwaith yr eglwys yn gyffredinol) yn waith annodd dyddiau yma ac ar adegau mae’n gallu bod yn waith tor-calonnog a blinedig, a dydy profiadau a hanesion felly ddim yn destun blogio difyr. Ar y llaw arall pan fo’r gwaith yn dal gafael ac yn dwyn peth ffrwyth dydy blogio ddim yn syniad da chwaith oherwydd y perygl o ddod drosodd yn goeglyd, ymffrostgar a buddugoliaethus! Dyna pam dwi ddim yn blogio llawer am fy ngwaith dydd i ddydd yma.
Ond, mae’r blogiad yma mynd i fod yn eithriad prin oherwydd dwi’n teimlo mod i eisiau rhannu rhywfaint am ddaioni Duw i ni yng Nghaersalem Caernarfon yn ddiweddar.
Tîm Addoli
Ers mis Medi 2011 rydym ni wedi ein harwain i sefydlu Tîm Addoli yn yr eglwys. I lawer o eglwysi Saesneg mae hyn yn no brainer, ond i eglwys Gymraeg mae’n gam arwyddocaol dwi’n meddwl. Mae’n gam pendant, clir a gweladwy i ffwrdd o’r model ‘Gweinidog yn gwneud bob dim’. Erbyn hyn pan fydda i’n pregethu a pan fydd pregethwyr gwadd yn pregethu gyda ni dim ond pregethu y bydd y pregethwr yn gwneud gyda gweddill yr oedfa yng ngofal y tîm addoli. Mae wir wedi bod yn chwa o awyr iach oherwydd waeth i mi gydnabod mae afterthought oedd yr addoliad gen i pan oeddwn i yng ngofal y pregethu a’r addoli. Roeddwn i’n paratoi y bregeth ac yna munud olaf yn taflu trefn yr addoliad ati yn ddigon difeddwl. Ond mae’r addoliad yr un mor bwysig a’r dysgu felly dan y drefn newydd mae’r addoliad yn cael y paratoad a’r sylw haeddiannol. Mantais fawr newydd y drefn newydd hefyd yw fod mwy a mwy o aelodau’r eglwys yn arwain mewn gwahanol ffyrdd. Mae mwy o amrediad oedran a mwy o falans rhyw i’w weld yn arwain yn yr Eglwys nawr ac mae hynny’n hyfryd ac yn gywir.
Rydw i’n ddiolchgar iawn i Dduw am ein harwain trwy’r newid yma. Newid sy’n ymddangos ar yr olwg gyntaf yn newid arwynebol yn unig, ond mewn gwirionedd mae’n newid pellgyrhaeddol sy’n ymwneud a’n cyfrifoldeb fel Eglwys i addoli Duw mewn ffordd anrhydeddus ac hefyd rhoi egwyddor ‘offeiriadaeth yr holl saint’ ar waith fwy fwy.
Nadolig
Yr ail beth sydd wedi fy nghalonogi dros y misoedd diwethaf oedd tymor y Nadolig yn yr Eglwys. Mae’n rhaid i mi gyffesu mod i ddim yn dda iawn gyda achlysuron arbennig, dwi’r math o Weinidog sy’n ofni gwasanaethau gwahanol i’r arfer yn hytrach nag un sy’n awchu amdanyn nhw. Ond cawsom ni ein calonogi’n fawr eleni wrth i oddeutu ugain o bobl o du allan yr Eglwys droi i mewn i addoli gyda ni yn yr Oedfa Deulu ac oddeutu pymtheg o du allan yr eglwys ymuno a ni yn ein gwasanaeth Carolau. Rydym ni’n eglwys gymharol fychan felly rydym ni’n sôn fan hyn am ganran sylweddol yn cael ei ychwanegu i’r gynulleidfa. Roedd hi’n gymaint o fraint cael cynifer o bobl yn ymuno gyda ni i glywed am y newyddion da rydym ni fel Cristnogion yn ei ddathlu dros y Nadolig.
Yn o gystal a’r ffaith i dipyn ymuno a ni yr ail anogaeth yw sut wnaeth y bobl ymuno a ni. Er i ni gynhyrchu flyers a gwahoddiadau a’u dosbarthu yn gymharol eang o gwmpas y dref nid drwy wahoddiadau amhersonol y daeth pobl ond yn hytrach drwy gyswllt ffrindiau a theulu. Dangosodd hyn i mi yr hyn roeddwn i wedi ei dybio ers blynyddoedd sef mae’r ffordd orau o gyflwyno pobl i gymdeithas yr Eglwys ac i’r newyddion da am Iesu yw nid o’r rheidrwydd drwy flyers a chyfathrebu amhersonol ond yn hytrach drwy berthnasau a chyfeillgarwch dwfn hir-dymor wedi ei seilio ar gariad.
Teulu yn tyfu
Ond wrth gwrs mae’r rhan fwyaf o eglwysi yn cael spike yn eu niferoedd yn nhymor y nadolig a dyma ddod at y trydydd anogaeth. Mae rhai o’r bobl wnaeth ymuno a ni dros y Nadolig wedi parhau i ddod i glywed mwy am Iesu. Rhai yn agored yn chwilio, eraill yn adnabod Iesu ac wedi ffeindio cartref ysbrydol gyda ni. Mae’n gymaint o fraint fod Duw wedi ymddiried y bobl yma i’n gofal ni yng Nghaersalem.
Dyfodol
Wrth edrych nol dros y misoedd diwethaf mae’n dda gallu gweld fod Duw wedi ein cynnal a’n harwain ond rwy’n synhwyro fod cyfnod o brawf ar y ffordd. Mae sawl teulu yn ein mysg ni’n wynebu gofid a salwch dros y misoedd nesaf. Fel pob eglwys fechan, wrth edrych ar bethau drwy lygaid bydol, mae’r gwaith yn gallu teimlo fel tŷ gwellt weithiau. Pe bae dim ond un neu ddau o’r teulu yn ein gadael am ba bynnag reswm byddai’r effaith yn bellgyrhaeddol. Ond wrth gwrs mae’n rhaid i mi gofio fod Duw yr un peth pa bynnag brofion daw ar ein traws a pwy bynnag sydd yn y cwch.
Mae’r gwaith yng Nghaersalem yn mynd yn ei flaen yn galonogol nid oherwydd ni’r aelodau ond er ein gwaethaf ni ac oherwydd bod Duw yn dda ac yn hoffi ein synnu ni.
Cyffrous iawn i glywed am yr ychwanegiadau at y gynulleidfa yng Nghaernarfon ac am y fendith sy’n dod o gael yr aelodau yn defnyddio’u doniau amrywiol er clod i Dduw ac er gwasanaeth i eraill. Braf cael newyddion da! Pob bendith!