Fi oedd yn gwneud ‘Dweud Eich Dweud’ ar y Post Cyntaf eto bore ‘ma. Dyma oedd gen i ddweud:
Heddiw rydym ni’n cofio hanner canrif ers traddodi Tynged yr Iaith, darlith enwog a phwysig Saunders Lewis. Roedd cynnwys y ddarlith yn bwysig iawn ond mae’r recordiad yn bwysig hefyd gan ei bod hi wedi diogelu cofnod o lais cofiadwy Saunders am genedlaethau. Cofiadwy meddwn i, ond mewn gwirionedd llais tra anghofiadwy oedd gan Saunders. Yr oslef isel mono-dôn hwnnw fyddai’n peri i chi dybio nad oedd Saunders ei hun wedi ei argyhoeddi a’i ddadl heb sôn am allu ysbrydoli eraill. Y math o oslef llais sy’n peri i rai syrthio i gysgu.
Heddiw, yn oes y spin doctors, y sloganau slic a’r delweddau deifiol mae’n debyg na fyddai rhywun fel Saunders yn cael gwahoddiad i ddarlledu darlith o’r fath. Doedd ganddo ddim “llais radio” yn fwy nag oedd ganddo “wyneb i’r teledu” chwaith.
Un o wendidau bywyd cyhoeddus heddiw yw fod pobl yn cael eu barnu yn ôl y ffordd maen nhw’n dweud rhywbeth yn hytrach na sylwedd yr hyn sydd gyda nhw ddweud. Ac yn hynny o beth mae darlith mono-dôn Saunders yn ein hatgoffa fod sylwedd, yn yr hir dymor, yn llawer pwysicach na steil.
Bore da i chi.