Wnes i neud Dweud eich Dweud eto bore ‘ma ar y Post Cyntaf. Dyma oedd gen i:

Wythnos yma fe gafodd yr acrobat Nik Wallenda ganiatâd yr awdurdodau i gerdded ar raff uchel ar draws Rheadrau Niagra. Os yn llwyddiannus fe fydd y seithfed person i wireddu’r gamp hynod yma. Y cyntaf oedd Charles Blondin a hynny nol yn 1859.

Trodd tyrfa fawr allan i weld Blondin yn cyflawni’r gamp. Aeth drosodd y tro cyntaf heb unrhyw drafferth ac roedd y dorf wrth eu boddau ac yn bloeddio ei enw. Aeth drosodd yr eildro, y tro hwn yn gwthio berfa o’i flaen – erbyn hyn roedd y dorf wedi mopio’n llwyr gyda’i harwr a’i diddanwr newydd.

Dyma Blondin yn troi at y dyrfa a holi os oedden nhw’n credu y gallai groesi’n ôl gyda rhywun yn y ferfa?

“Wrth gwrs” atebodd y dorf yn unfarn gan barhau i floeddio ei enw.

“Iawn”, meddai Blondin, “pwy ddaw yn y berfa gyda mi?”

Ac aeth y dorf yn dawel fel y bedd!

Torf o bobl oedd yn ddigon parod i gefnogi Blondin mewn gair ond cefnogaeth a ddiflannodd yn llwyr pan fu’n rhaid troi’r gair yn weithred.

Mae hwn yn ddelwedd o sawl ffenomen ryfedd yn ein cymdeithas ni heddiw. Er enghraifft, cymerwch barodrwydd pawb i gwyno ynglŷn a’r llywodraeth neu’r Cyngor Sir ac yna llai na hanner y boblogaeth mewn rhai llefydd yn troi allan i bleidleisio mewn etholiad. Pobl yn barod i ddweud a chwyno ond yn swil o wneud.

Mae stori Blondin hefyd yn dysgu gwers i ni ynglŷn a beth yw ffydd go-iawn. Roedd pawb yn ymuno a’r dorf a bloeddio – ond neb yn fodlon neidio mewn i’r ferfa – neb yn fodlon ymddiried eu ffydd yn Blondin.

Mae ffydd yn cael ei brofi pan fo rhywun yn mentro allan o’u corlan gysurus. Ond os mentro allan mae’n eithriadol bwysig ein bod ni’n rhoi ein ffydd yn y gwrthrych cywir.

Bore da i chi gyd.

Please follow and like us: