Dyma oedd fy Nweud fy Nweud olaf mis yma:
Roedd hi’n hyfryd clywed ar y newyddion dros y penwythnos fod y bytholwyrdd Nelson Mandela yn cryfhau ar ôl triniaeth fechan. Er fod Mandela wedi ymddeol o fywyd cyhoeddus ers tro mae’n parhau i fod yn ffigwr sy’n ymgorffori gobaith pobl Soweto a phobol gwâr trwy’r byd.
Mae gen i gof plentyn o’i wylio’n cael ei ryddhau o’r carchar, ac er mod i rhy ifanc i ddeall yn iawn beth oedd yn digwydd, roedd hi’n amlwg hyd yn oed i blentyn fod gwawr newydd yn torri.
Mae Mandela yn eicon ac yn arwr i ni gyd.
Ond mae Mandela hefyd yn ddyn sy’n ein hatgoffa mai meidrolion ydym ni gyd. Wrth ddarllen amdano daw’n amlwg nad oedd yn rhyw fath o uwch-fod-dynol, nid superman mohono. Roedd ganddo ei wendidau fel pob un ohonom ni.
Mae’r Beibl hefyd yn rhoi darluniau gonest iawn o arwyr y ffydd Gristnogol. Do, fe ufuddhaodd Noa ac adeiladu’r Arch. Ond mae’n bwysig i ni beidio anghofio’r tro trwstan hwnnw pan aeth ati i blannu gwinllan, yfed yr holl win, cyn i’w feibion ei ffeindio yn gorwedd yn noeth lymun yn ei babell! Yn ffodus iddo doedd Facebook ddim yn bodoli ar y pryd.
Mandela, Noa, Halfpenny, neu pwy bynnag yw ein harwyr, mae’n bwysig i ni gofio mai meidrolion ydyn nhw i gyd. Dyma wrth gwrs sy’n gwneud y gŵr o Nasareth mor unigryw.
Bore da i chi gyd.