Dwi’n gwneud ‘Dweud Eich Dweud’ ar y Post Cyntaf bob bore dydd Llun mis yma. Dyma oedd gen i ddweud bore ma:

Mae gan y band Eitha Tal Ffranco gân ffraeth iawn o’r enw ‘Llysieuwyr Rhan-amser’ sy’n tynnu coes a thynnu blewyn o drwyn Pescetarians. Hynny yw llysieuwyr sy’n bwyta pysgod. “Mae’n iawn i fwyta anifeiliaid os ‘dy nhw ddim efo traed” meddai’r gytgan. Beth bynnag am lysieuwyr rhan amser mae’n ymddangos mae’r cefnogwyr Rygbi rhan amser sydd wedi eu hestyn o’r cwpwrdd wythnos yma. Rydym ni nawr yn nhymor y chwe gwlad. Y tymor rhyfedd hwnnw lle mae pobl yn ail-ddarganfod eu diddordeb heintus yn y bêl hirgron am gwta ddeufis cyn anghofio am y cyfan am flwyddyn arall.

Un o nodweddion ein diwylliant rygbi ydy’r morio canu sydd ar yr hen emynau yn stadiwm y mileniwm a thu hwnt. Er ei fod yn cyfrannu tipyn at awyrgylch y gemau mae rhywbeth gweddol drist am weld yr hen emynau cyfoethog yn cael eu canu mewn ffordd mor ddiystyr. Y diwylliant yma wrth gwrs berodd i’r Western Mail ddatgan rai blynyddoedd yn ôl mae Greham Henry yn wir oedd y “Great Redeemer” – ensyniad oedd yr un mor ddwl â honiad y Liverpool Post llynedd mai dychweliad Kenny Dalglish i reoli Lerpwl oedd yr “Ailddyfodiad”.

Llysieuwyr rhan-amser, cefnogwyr rygbi rhan amser – beth am grefyddwyr a Christnogion rhan amser? Oes yna unrhyw wahaniaeth sylfaenol rhwng morio canu emynau mewn gem rygbi a’u morio canu mewn cymanfa ganu dyddiau yma? Oes yna berygl i ni fynd yn genedl o bobl sydd dal yn hoff o ganu am Iesu ond yn meddwl mai rhywbeth i bobl od yn unig yw credu a dilyn Iesu? Yng ngeiriau Dylan Jones Taro’r Post: “Dim ond gofyn.” Bore da i chi gyd.

Please follow and like us: