Bellach mae Simon Brooks a’i deulu yn byw yng Nghaerdydd ac mae ei blant yn mynychu ysgol Treganna. Roedd hi’n ddiddorol felly darllen ei ymateb e ar flog Vaughan Roderick i benderfyniad Carwyn Jones i beidio cefnogi ehangiad addysg Gymraeg yn y Brifddinas. Dyma ddywedodd Seimon:

Datganoli = llywodraeth Lafur barhaus = rhagfarn sefydliadol ddi-ben-draw yn erbyn lleiafrif ieithyddol

Dwi’n ansicr o ran y refferendwm datganoli ar hyn o bryd. Oni fyddai pleidlais IE yn golygu rhagor o ragfarn wrth-Gymraeg? A deud y gwir, dwi’n closio at bleidlais NA.

Beth yw teimladau darllenwyr eraill y blog am hyn? Dwi’n ei chael yn gynyddol anodd cysoni fy nghefnogaeth i’r Gymraeg a’m cefnogaeth i’r brosiect ddatganoli. Oes rhywun all fy narbwyllo fel arall?

Dyna beth yw dweud mawr.

Rwy’n cytuno gyda Simon nad ydy datganoli yn ddiben ynddo fe ei hun. I mi diben datganoli ydy gwarchod, hybu ac yna datblygu’r genedl Gymreig ac yn bennaf oll ein hunaniaeth a’n hiaith. Felly os ydy datganoli yn methu delifro hynny yna rhaid holi a’i priodol, ar hyn o bryd, yw prysuro i ddatblygu datganoli ymhellach. Mae Simon yn holi’r cwestiynau cywir ond dwi’n rhyw deimlo ei fod, yn annodweddiadol, yn dod i’r casgliad anghywir y tro hwn. Yn sicr o beth dydw i ddim yn gyfforddus gyda pholisi iaith y Llywodraeth Lafur Gymreig (a pha bynnag blaid arall sydd mewn clymblaid a hi, yn Ddemocratiaid Rhyddfrydol neu’n Blaid Genedlaethol) ond rwy’n credu y dylai’r sofraniaeth foesol dros yr iaith fod yng Nghaerdydd nid Llundain.

Wrth gwrs adleisio proffwydoliaeth Saunders mae Simon yn ei wneud fan hyn. Y ddadl fod angen ennill brwydr yr iaith cyn symud tuag at annibyniaeth gan mae’r iaith fyddwn ni’n camu tuag at annibyniaeth ynddo fydd iaith y Gymru rydd. Yr iaith honno yw’r Saesneg ar hyn o bryd gydag ychydig bach o Gymraeg ar yr ochr. Dydym ni ddim hyd yn oed wedi cyrraedd sefyllfa o ddwyieithrwydd fel norm eto heb sôn am wir ddelfryd hir dymor gwir genedlaetholwyr i weld y Gymraeg yn ôl fel priod iaith mwyafrif pobl Cymru.

Please follow and like us: