Des i ar draws hwn ar flog Chwadan bore ma. Wedi rhedeg fy llun drwyddo ac mae’n debyg mod i’n edrych fel y pel-droediwr Figo. Fedrai weld rhyw fymryn o debygrwydd h.y. o dras cyfandirol + trwyn mawr.
Ym mhellach i lawr y rhestr roedd Kate Winslet. Ddim cweit yn siwr beth sy’n gyffredin rhyngtha ni’n dau!!!
Please follow and like us:
Mae rhyw thema fan hyn – rydw innau’n debyg i bel-droediwr – Stanley Matthews (68%), ond dwi’n fwy pryderus am John Kerry (62%). Dwi’n hanner tebyg (51%) i Anthony Hopkins.
Ond yn ôl llun arall ohonof fi fy hun, dwi’n ymdebygu i Howard Hughes – ac unwaith eto i Anthony Hopkins.
Mae fy ngwraig yn debyg i Howard Dean, ac yn hanner tebyg i Tim Henman. O leiaf mae ganddi rywbeth yn gyffredin ag ef. Wnaiff hithau chwaith fyth ennill Wimbledon.
John Kerry – hoho
Fedrai weld hwna hefyd.