Pam mod i fel Cristion, efengylaidd os mynnwch, yn cefnogi Obama wythnos yma yn hytrach na McCain? Dyma geisio rhoi rhyw syniad i chi pam mod i’n credu fod llawer o efengylwyr yr UDA yn gwneud camgymeriad drwy gefnogi McCain ar fater un polisi penodol y unig.

Mae’r adain dde Gristnogol yn yr UDA yn ystod wyth mlynedd G. Bush wedi plethu’r ffydd Gristnogol a gwladwriaeth mewn modd tu hwnt o beryglus a gwrthun i’n traddodiad anghydffurfiol ni fel Cymry, sydd wedi arfer tynnu llinell bendant rhwng yr Eglwys a’r Wladwriaeth. Ond ar y llaw arall nid yw’r ateb yn dod o’r chwith-Gristnogol ryddfrydol chwaith ond yn hytrach o gyfeiriad y drydedd ffordd sy’n cael ei hyrwyddo gan ŵyr tebyg i Jim Wallis a Tony Campolo. Rhaid i’n ffydd ni fel Cristnogion fod yn gyflawn ac edrych ar berthnasedd ein ffydd a’n gwerthoedd ym mhob sffêr nid dim ond ar rai pynciau penodol. Rhaid edrych ar y naratif a’r pecyn llawn mae Obama a McCain yn ei gynnig.

Bron i chwarter canrif yn ôl fe adolygwyd un o lyfrau Jim Wallis gan D. Densil Morgan yn y Cylchgrawn Efengylaidd. Mae Densil Morgan, fel maen digwydd, allan yn Princeton ar hyn o bryd yn dysgu am dymor ac mae ganddo bleidlais ddydd mawrth gan fod ganddo ddinasyddiaeth ddeuol gan mae Americanwr oedd ei dâd! Does dim angen holi i bwy fydd Densil yn pleidleisio gobeithio! Yn 1983 (cyn i mi gael fy ngeni!) nododd Densil Morgan fod Wallis yn profi ‘…nad gan y rhyddfrydwyr diwinyddol mae’r hawl ar yr enw radicaliaid’ a bod eu syniadau ‘…oll yn feibl-ganolog, mor newydd o feibl-ganolog nes iddo weld y pethau sy wedi bod dan ein trwynau erioed a ninnau, oherwydd ein rhagfarnau, wedi methu eu gweld.’ Mae Wallis o’r farn y dylai Cristnogion Efengylaidd ymhél â gwleidyddiaeth ac mae’n argyhoeddiedig nad oes rhaid cyfaddawdu â’r byd er mwyn gwneud hynny. Yn un o’i lyfrau, ‘God’s Politics: Why The Right Gets It Wrong And The Left Don’t Get It’ mae’n dadlau dros wleidydda Gristnogol amgen. Defnyddia Wallis ymadroddion fel ‘Don’t go left or right, go deeper’ a ‘I like the term prophetic politics; that’s more biblical. Prophetic politics has the capacity to challenge both left and right’.

Mae system syniadaethol Wallis yn cychwyn gyda thröedigaeth y Cristion. Cred fod y cyfnewidiad ‘eithafol’ hwn yn cyffwrdd pob agwedd o fywyd dyn. Cred Wallis fod y ‘trawsffurfio’ y cyfeiria’r Apostol Paul ato yn Rhufeiniaid 12:2 yn cyfeirio at, ie yr enaid ar un llaw, ond ar y llaw arall at y person cyflawn a achubwyd. Nid trawsffurfiad sy’n digwydd y tu allan i hanes mo hwn ond mae’n digwydd i bobl sy’n byw mewn cyfnod arbennig, mewn lle arbennig ac sy’n perthyn i genedl arbennig. Oherwydd hyn rhaid i’r Cristion gyflwyno neges yr efengyl ysbrydol ar un llaw ond hefyd gyflwyno teyrnas Duw i’r byd mewn modd sy’n herio a newid y drefn. Rhaid gwrthwynebu’r status quo, systemau gwleidyddol a syniadau moesol y byd hwn; rhaid troi’r byd ben i waered.

Fel y dywedodd R. Tudur Jones: ‘Mewn trefn ddemocrataidd mae pawb yn wleidyddion’; ac felly does dim dianc o’n cyfrifoldebau. Wrth edrych ar gyflwr ysbrydol, gwleidyddol a diwylliannol yr UDA a’r Gorllewin yn gyfferedinol mae’n ddewis “Naill-ai/Neu” i’r Cristion – naill ai cydnabod Iesu Grist yn Arglwydd ar bob sffêr yn ein bywyd neu arddel un o heresïau mwyaf yr Eglwys yn ôl Bobi Jones, sef pietistiaeth. Daeth un nodwedd arbennig o bietistiaeth yn amlwg iawn i mi yn ddiweddar sef y duedd i gadw allan o wleidyddiaeth ac o drafod pynciau gwleidyddol a chymdeithasol ond gwneud rhai eithriadau lle maen nhw yn mentro mewn i’r gwleidyddol. Yn yr oes a fu yr eithriad oedd dirwest ac alcohol ac heddiw yr eithriadau ydy erthyliad, gweddi mewn ysgolion a hawl i ddal gynnau.

Mewn cyfweliad ar wefan Tearfund mae Jim Wallis yn edmygu Cristnogion Efengylaidd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fel Willberforce a Finney. ‘They got it!’ meddai Wallis, gan esbonio ‘They were revivalists and reformers, evangelists and abolitionists. They connected faith and justice.’ Rwyf i o’r farn, fel Wallis, bod gennym lawer i’w ddysgu oddi wrth unigolion fel Wilberforce ac R. Tudur Jones – rhai a welodd y cysylltiad positif rhwng tystiolaethu a cheisio dylanwad gras Iesu Grist i’r byd yn gyffredinol. Yn ystod y frwydr arlywyddol yma, yr unig dro y daeth pobl yn ymwybodol o’r farn efengylaidd oedd wrth drafod erthyliad a pholisi tramor. Mae datgan fod erthyliad yn anghywir yn bwysig wrth gwrs, ond beth am lais Cristnogol ar faterion megis tlodi, yr amgylchedd ac addysg? Rhaid mynd un cam ym mhellach, fel y dywed Wallis; ‘You can’t just keep pulling bodies out of the river; you’ve got to send somebody upstream to see what or who is throwing them in.’ A dyna beth mae Obama wedi bod yn gwneud yn Chicago ers blynyddoedd a dyna mae McCain yn gwrthod gwneud drwy gadw at bolisïau tymor byr, hunanol a simplistig.

Dyna pam yr ydw i fel Cristion yn cefnogi Obama oherwydd fod Obama yn gorff llawnach a naratif gyflawn o bolisïau sy’n eistedd llawer mwy cyfforddus ar gydwybod y Cristion a dysgeidiaeth Iesu na naratif Maverickaidd naïf McCain.

Please follow and like us: