Nofel fer ond epig yn dilyn gyrfa Siôn Trefnant (John/Thomas Trevenant), y Cymro a fu’n Esgob Henffordd rhwng 1389 a’i farwolaeth yn 1404. Er bod y nofel bron yn llwyr ddychmygol mae wedi ei osod i gefnlen hanesyddol gywir: cyfnod y ddau Bab (Rhufain ac Avignon), Gwrthryfel Glyndŵr, y “Peasants’ Revolt” a hefyd dylanwad John Wycliffe, rhagflaenydd y diwygiad protestannaidd. 

Mae’r nofel yn dilyn sut y bu i Siôn Trefnant gael ei rwygo trwy ei yrfa rhwng ei gydymdeimlad â Gwrthryfel Glyndŵr a’i deyrngarwch disgwyliedig fel Esgob i Goron Lloegr. Rhwng ei gydymdeimlad a diwinyddiaeth radical Wycliffe a’i deyrngarwch disgwyliedig i Bab Rhufain. 

Mae’n nofel sy’n dangos y tyndra a’r llwybr cul sy’n rhaid iddo gerdded drwy geisio bod yn driw i’w alwad a’i werthoedd ar un llaw ond hefyd chwarae’r gêm wleidyddol wrth geisio mynd ymlaen yn ei yrfa eglwysig mewn cyfnod lle’r oedd y Goron, yr esgobaethau a Rhufain i gyd mewn cytgord bregus a’i gilydd gydag esgobion cyffredin fel Siôn yn cael eu dal yn y canol.

Mae’r nofel yn codi cwestiynau cyfoes am y rôl y dylai (neu na ddylai) arweinwyr eglwysig heddiw chwarae yn y sgwrs a’r ymgyrchoedd am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. Byddwn yn dwyn i gof sut y bu i Archesgob Cymru ddatgan ei gefnogaeth bersonol i’r ymgyrch am annibyniaeth i Gymru llynedd a hefyd y cysylltiad agos yn hanesyddol a fu rhwng arweinwyr anghydffurfiol gydag ymgyrchoedd Plaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith. 

Mae perthynas Siôn Trefnant gyda Wycliffe yn codi cwestiynau cyfoes am le diwygio ym mywyd yr eglwys heddiw a sut i’w gyflwyno. A ddylid ceisio adfywio’r hyn y sydd fel ag yr ydwyf i yn bennaf wedi rhoi fy ymdrech iddo ers fy ordeinio 13 o flynyddoedd yn ôl yn Weinidog o fewn hen enwad? Ynteu a ddylid adfywio drwy gychwyn o’r newydd fel y mae fy ffrindiau yn 100 i Gymru wedi teimlo galwad iddo? Neu oes lle i’r ddau?  

Ac wedyn beth am y rhai ohonom, fel Siôn Trefnant, sydd wedi cael galwad i weithio yn yr hen drefn (boed hynny yn yr enwadau anghydffurfiol neu yn yr Eglwys yng Nghymru) ond eto a chydymdeimlad gyda rhai o’n cyfeillion sydd wedi derbyn galwadau tu allan i’r hen drefn i eglwysi newydd? Oes lle i’r ddau? Beth ddylai’r berthynas fod rhwng y ddau? Beth i wneud pan fo tensiwn yn codi? Beth mae Semper reformanda yn ei olygu yn y cyd-destun hwn?! 

Yn dilyn llwyddiant ysgubol Sgythia gan Gwynn ap Gwilym rwy’n synnu fod dim mwy o bobl wedi ail-ddarganfod y nofel hon a bod ryw gyhoeddwr ddim wedi mentro ei ail-gyhoeddi gan ei bod allan o brint a’r cyhoeddwr gwreiddiol bellach wedi peidio a chyhoeddi dim byd.

Please follow and like us: