Un o’r agweddau mwyaf cyffrous o’r daith i Rhys a fi yw’r cyfle i fynychu eglwysi amrywiol a gwahanol. Mae’r dewis o fynegiant a diwinyddiaeth yn anhygoel, felly gobeithio y cawn gyfle i brofi sawl math o eglwys. Yn Philadelphia yr oedden ni ar ein Sul cyntaf yn America. Dyma ddinas Tony Campolo a Shane Claibourne, dau arweinydd rydyn ni’n eu hedmygu’n fawr iawn. Mae Campolo a Claibourne yn ladmeryddion effeithiol dros Gristnogaeth sy’n byw dysgeidiaeth Iesu ac yn gweld gweithredu cymdeithasol fel rhan hanfodol o’u ffydd ac mae hyn yn greiddiol i’n gweledigaeth ninnau. ‘It’s Friday, but Sunday’s Coming’ yw pregeth enwocaf Campolo, ac yn wir, ein gobaith yn Philly ar ôl profi’r cheesesteak oedd dod o hyd i eglwysi sy’n byw’n ymarferol gobaith y trydydd dydd yn eu cymuned.
Freedom Church
Yr eglwys gyntaf i ni ymweld â hi oedd Freedom Church, Chestnut St, Philadelphia. Roedd ganddynt un gwasanaeth am 9:30yb ac un arall a 11yb mewn awditoriwm theatr ar stryd siopa brysur. I fod yn onest, y prif reswm y penderfynom ni fynychu oedd oherwydd ei fod mor agos i’n gwesty, ond roedd y wefan yn edrych yn addawol. Dewisom fynychu’r gwasanaeth cyntaf, a dyma rai geiriau am brif elfennau’r gwasanaeth:
Y croeso: Theatr neu sinema yw’r adeilad o ddydd i ddydd ond fod yr eglwys yn defnyddio’r adeilad ar fore Sul. Roedd pobl i’n croesawu ar ôl dod i mewn trwy’r drws a gwahoddwyd Rhys i ddigwyddiad cymdeithasol yr wythnos wedyn (sori – twristiaid ŷm ni!). Roedd bwrdd gyda merched cyfeillgar yn cynnig mwy o wybodaeth a chynnig o goffi mewn cornel arall, ac roedd bwrdd arall i ymholi am waith plant yn ystod y gwasanaeth. O ystyried mai rhyw 100-130 oedd yn y gwasanaeth 9:30yb, roedd y set-up yn broffesiynol iawn. Yn ystod yr addoliad anogwyd pobl i estyn heddwch i’r bobl o’u cwmpas a chyflwyno eu hunain, ond aeth y gymdeithas ddim lawer pellach na hynny.
Yr addoliad: Band cyfoes, dau gitâr, dryms a phedwar canwr yn cael ei arwain gan un o’r merched oedd yn canu. Caneuon Hillsongs felly roeddem yn gwybod y caneuon. Addoliad da iawn yn deisyf presenoldeb Duw.
Y cyhoeddiadau: Weithiau cewch y teimlad mewn eglwysi fel hyn fod popeth yn reit oeraidd, ond nid felly yma. Roedd ymdeimlad cryf o deulu yma. Anogwyd pawb yn gryf i ddod i’r digwyddiad cymdeithasol ar brynhawn y Sul canlynol i chwarae bowlio deg a gwelwyd hwn fel cyfle i bobl ddod i adnabod eu gilydd yn well. Syniad gwych i fod yn eglwys tu allan o’r eglwys.
Y bregeth: Un o arweinwyr yr eglwys oedd yn pregethu ond nid eu gweinidog hŷn. Y testun oedd Genesis 16 sef hanes Sarai ac Abram a morwyn Sarai, Hagar. Stori gymhleth am Sarai yn caniatáu i Abram feichiogi Hagar ond llwyddodd y pregethwr i graffu ar y testun ac roedd y pwyntiau dysgu yn dda iawn; roedd yn bregeth ddeallus hefyd gan iddo ddefnyddio Freud i ddadansoddi seicoleg Sarai! Er fod gan Sarai bopeth materol, obsesiynau am y ffaith nad oedd ganddi blentyn; gadawodd i’w amgylchiadau ei diffinio yn hytrach na Duw – ceisiodd dod o hyd i atebion ei hunan yn hytrach nag ymddiried yn Nuw. Roedd amgylchiadau bywyd Hagar yn erchyll wedi ei chywilyddio gan Sarai a’i thrin fel mwd gan Abram, ond galwodd Duw hi wrth ei henw ac adferodd ei hurddas. Roedd perthynas glos rhwng y pregethwr a’r gynulleidfa, ac roedd rhai o’r Americaniaid Affricanaidd benywaidd yn gweiddi pethau fel ‘Say it again!’ a ‘Goooood’ oedd yn gryn destun difyrrwch i ni.
Argraffiadau: Dyma eglwys sy’n amlwg yn deulu. Cyfuniad o addoliad a phregeth oedd yn help i ddyfnhau perthynas pobl â Iesu. Dwi ddim yn meddwl y gallwn addoli mewn awditoriwm bob wythnos – rhaid fy mod i’n mynd yn fwy traddodiadol yn fy henaint!
Circle of Hope
Daethom o hyd i eglwys Circle of Hope ar y we ac o’u disgrifiad ac o ddarllen rhai o flogs yr arweinwyr roeddem yn gwybod y byddwn yn gartrefol iawn yn eu mysg. Roedd rhaid dal bws i fynd i ochr ogleddol y ddinas, ochr llawer dlotach = ardal Americanwyr Affricanaidd.
Y croeso: Roedd dwy ferch tu allan i adeilad lle roeddent yn cyfarfod (adeilad sefydliad Beiblaidd, ac roeddynt yn cynnal y gwasanaeth mewn ystafell agored ar y llawr gwaelod. Ar ôl cerdded i mewn a gweld nad oedd llawer o bobl wedi cyrraedd eto, daeth merch hyfryd o’r enw Jeanine i siarad â ni a’n holi am ein hanes. Rhannodd ei bod hi wedi aros yn Philly oherwydd yr eglwys, bod y pwyslais ar ddilyn Iesu yn apelio iddi a’i fod yn eglwys sy’n hygyrch i bobl o’r tu allan na fyddai’n mynd i eglwys fel arall. Roedden nhw’n cwrdd am 5yp ac eto am 7yp mewn pedwar lle ar draws y ddinas. Tua 25 oedd yn y gwasanaeth a fynychon ni. Roedd y bobl eraill i weld i adnabod ei gilydd yn dda.
Yr addoliad: Roedd yr addoliad yn eclectig gyda band â naws gwerinol. Doeddwn i ddim yn gwybod unrhyw un o’r caneuon ond roedden nhw’n hawdd iawn i’w canu ac roedd pwyslais cryf ar wahodd yr Ysbryd Glân a Christ i fyw ynom. Roedd un o’r caneuon yn iaith Zulu – gwych! Thema y gwasanaeth oedd ‘gwynt’ a gwahoddwyd ni i wneud ffans bach allan o bapur er mwyn cynyddu’r gwynt fel rhan o’r addoliad. Er fod Rhys wedi mwynhau’r addoliad roedd yn bryderus beth fyddai argraffiadau rhywun newydd i Gristnogaeth achos gallai ymddangos fel arddull eitha ‘happy-clappy’ hipiaidd ac rwy’n deall ei bwynt.
Y cyhoeddiadau: Bachgen ifanc oedd yn gwneud y cyhoeddiadau ond roedd gweledigaeth yr eglwys yn hydreiddio’r holl bethau a siaradodd yn goeth amdanynt. Roedd pwyslais amlwg ar i’r eglwys ymgnawdoli Crist a byw eu ffydd yn eu cymuned drwy fod yn rhan o grŵp trafod/astudio/gweddi i ddatblygu eu pererindod ysbrydol. Mae ganddyn nhw ‘Compassionate Teams’ – pwysleisiodd mai’r peth cyntaf y dylai pobl wybod amdanynt fel eglwys yw eu bod yn pobl compassionate. Anogodd pobl i ymwneud â un o’r grwpiau compassionate, sef grŵp sy’n canolbwyntio ar weithred o gyfiawnder cymdeithasol, e.e. trawsffurfio tir anial yn y ddinas i fod yn ardd gymunedol, ymgyrchu am heddwch, ymgyrchu yn erbyn trais yn erbyn Americaniaid Affricanaidd.
Y bregeth: Dyn o’r enw Joshua Grace oedd yn pregethu sef un o brif arweinwyr yr eglwys. Roedd ganddo datŵs ar hyd ei freichiau ac roedd yn dipyn o gês. Dywedodd wrthyf ar ôl y gwasanaeth ei fod yn hyfforddi yn un o seminaries Cristnogol Americaniaid brodorol felly roedd yn ymwybodol o effaith ddinistriol trefedigaethu Cristnogol. Roedd Joshua eto yn pwysleisio fod ffydd yn daith ac mai nod yr eglwys oedd dyfnhau eu hadnabyddiaeth o Iesu mewn cymuned gyda’i gilydd a thrwy’r grwpiau bach yn ystod yr wythnos.
Ei destun oedd Iesu yn tawelu’r storm. Dyma rai pethau a safodd allan i fi: pan rydyn ni wedi gwneud rhywbeth yn iawn/dda peidiwch disgwyl i Iesu ddod i ddweud ‘da iawn ti’; Iesu yw’r cwmpawd sy’n dod atom ni yng nghanol y storm. Mae’r syniad o ‘solidarity’ yn ganolog i’r daith ysbrydol – ni’n cefnogi’r bobl wan, cefnogi ein gilydd yn ein pererindodau, ac wrth gwrs dangosodd Iesu y solidarity eithaf i ni (trwy farw drosom). Rydyn ni fel eglwys yn euog o feddwl y dylen ni fod yn llwyddo. Anghywir…drychwch ar y disgyblion – roedden nhw’n mynd i gael eu dienyddio am ddilyn Iesu. Mae’r eglwys wastad wedi colli ei ffordd o feddwl fod rhaid ennill/llwyddo’n gymdeithasol ac wedi cael ei hun i mewn i sefyllfaoedd anodd/compromising. Dywedodd fod cyd-deithio gyda Duw yn dechrau gyda pum munud bob dydd yn agored i’w bresenoldeb Ef, gofyn iddo ein harwain. Dychmygwch pe bai pob Cristion yn gwneud hynna am 15 munud y dydd gymaint mwy y gallem ymgnawdoli Iesu yn y byd.
Hoffodd Rhys yn enwedig pwynt Joshua am y ffys sy’n cael ei wneud gan Gristnogion am yr angen i ddarllen y Beibl bob dydd os yn Gristion go-iawn – mae’r rhan fwyaf o Gristnogion trwy hanes ac mewn sawl gwlad heddiw wedi bod yn anllythrennog – beth oedden nhw’n ei wneud?! Dyfnhau perthynas a Iesu sy’n bwysig, er fod darllen y Beibl wrth gwrs yn ffordd dda o wneud hynny! Ar ôl y bregeth roedd cyfle i ymateb a chynnig gair o brofiad ac roedd nifer yn barod i wneud.
Y weddi: Gorffennwyd mewn cyfnod o weddi gan un o arweinwyr y Compassionate Teams dros o sefyllfa o drais systematig gan yr heddlu tuag at bobl du eu croen. Bydd Circle of Hope yn cynnal gwylnos tu allan i swyddfa heddlu newydd Philly i gofio am y bachgen a laddwyd yn Ferguson flwyddyn yn ôl.
Argraffiadau: Eglwys anffurfiol iawn yn debyg i Torri Syched nos Sul yng Nghaersalem. Roedd eu gweledigaeth am fod yn eglwys ble bynnag y bônt yn treiddio drwy bopeth. Hoffais yn enwedig eu pwyslais o fod yn rhan o un o’r timoedd ‘compassionate’ a bod gwneud gwaith cymdeithasol yn rhan greiddiol o’u pererindod ysbrydol. Yn aml yng Nghymru, bydd Cristnogion yn gwneud gwaith o’r fath fel rhywbeth ar wahân i’r capel, fel ‘add-on’ yn hytrach na fel rhan greiddiol o’u datblygiad ysbrydol.