Fel un o’r ychydig Gristnogion tech savvy yng Nghymru heddiw dwi’n cael llawer o arweinwyr Cristnogol yn dod ar fy ôl am gyngor. Yn ddiweddar, am ryw reswm, mae llawer wedi dod ar fy ôl yn gofyn am ffordd hawdd o greu gwefan i’w eglwys neu eu mudiad. Wrth gwrs y gyfrinach gyda creu gwefan i bobl sydd ddim yn tech savvy eu hunain ydy creu system sy’n hawdd i’w ddiweddaru a’i olygu. Fuesi i’n pendroni am ateb rhad i’r broblem am amser ond roedd yr ateb syth o flaen fy nhrwyn. WordPress!

Drwy ddefnyddio’r functions “pages” yn hytrach na “posts” ar WordPress, cynllunio delwedd bennyn unigryw ac ati mae modd gwneud gwefannau digon syml ond eto sy’n fwy na derbyniol. Ac yn fwyaf pwysig i’r diben pennodol hwn roedd modd dangos, yn weddol ddi-rwystr, i bobl oedd yn newydd i’r wê sut roedd golygu ac ychwanegu.

Ymysg y gwefannau dwi wedi helpu i sefydlu yn yr wythnosau diwethaf mae: llanw.org, gronyn.org a trobwynt.org.

Roedd rhai o’r mudiadau yma wedi cael quotes o £999+ gan gwmniau i greu gwefannau content system – ond i eglwysi a mudiadau gwirfoddol Cristnogol roedd hynny yn hurt o ddrud. Felly am 10% o’r pris yna dwi’n cynnig mynd draw at y bobl am ddiwrnod a dangos sut mae gosod gwefan fyny yn defnyddio WordPress.

Please follow and like us: