Dwi ddim wedi dweud dim ar y blog hyd yma ynglŷn a’r datblygiadau ym Mhrifysgol Bangor mewn perthynas a’r bygythiad i gau pump adran ac hefyd y broses o benodi Is-Ganhellor newydd erbyn blwyddyn nesaf yn lle Merfyn Jones. Dyma fy nghyfraniad i’r drafodaeth hyd yma felly.

Fi a Merfyn Jones ar achlysur derbyn Ysgoloriaeth Ymchwil R. Tudur Jones i un o'r Adrannau mae nhw am gau!
I ddechrau maen bwysig nodi fod oddeutu 20% o fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg Prifysgol Bangor yn yr adrannau sydd dan fygythiad. A chymryd yr Adran Addysg a’r Adran Gymraeg allan o’r darlun y mae’r ffigwr yn nes at 40%. Mewn gair, bydd cau yr adrannau yma yn golygu cwymp syfrdanol yn nifer myfyrwyr cyfrwng Cymraeg Prifysgol Bangor.
Ac mae’r Adran Gwyddorau Cymdeithas a’r Adran Ddiwinyddiaeth yn cynnig rhywbeth unigryw a phwysig i’r secotr. Dyma ydy’r unig adrannau yng Nghymru sy’n dysgu’r cyrsiau yma trwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal ag a bod yn cyflawni gwaith ymchwil Cymraeg a Chymreig unigryw, pwysig a safonnol.
Prif ddarparwr presennol addysg Gymraeg ydy Bangor ac felly mewn cyfnod lle mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg ar lefel genedlaethol i ddatblygu’r ddarpariaeth Gymraeg yn y sector maen drist gweld y prif ddarparwr bresennol yn rhwyfo’r ffordd arall. Tybed beth fydd gan yr Arglwydd, Llywydd Prifysgol Bangor, i ddweud am hyn.
Maen bur annhebygol, gwaetha’r modd, fod y gweithgor sydd wedi awgrymu cau’r adrannau ym Mangor wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i effaith hyn ar addysg Gymraeg a Chymreictod y sefydliad. Tybed a gododd hyn ar eu radar o gwbl? Os naddo, yna y mae hynny yn arwyddocaol ynddo ef ei hun ac yn dangos natur agwedd uwch dimau rheoli ein prifysgolion tuag at addysg Gymraeg ac yn cryfhau’r ddadl mewn gwirionedd dros Goleg Ffederal Cymraeg.
Mi fydd penodi Is-Ganghellor newyddi i olynu Merfyn Jones yn allweddol i ddatblygiad addysg Gymraeg ym Mangor. Er y byddai hi’n fanteisiol ac yn ddelfrydol i’r Is-Ganghellor newydd allu siarad Cymraeg, fy marn i yw fod agwedd yr Is-Ganghellor newydd tuag at y Gymraeg yn bwysicach. Rydym ni, dros y blynyddoedd, wedi cael gormod o “Gymry Da” sydd heb godi bys i ddatblygu addysg Gymraeg felly dydy gallu siarad yr iaith ddim yn ddigon mewn gwirionedd. Roedd Merfyn Jones yn siarad Cymraeg ond maen debyg ei fod ef yn awr yn gadael mewn cyfnod o ddirywiad a bygythiad i addysg Gymraeg sy’n dangos fod ymrwymiad yr un mor bwysig a’r gallu i siarad Cymraeg. Ddangosodd Merfyn Jones ddim digon o ymrwymiad nac arweiniad gwaetha’r modd – pe bae e wedi ni fyddai e’n gadael mewn cyfnod o ddirywiad na fyddai?
Fy marn i yw y bod yn rhaid i’r Is-Ganghellor newydd gael ymwybyddiaeth a phrofiad yn gweithio mewn cyd-destun Cymreig ac yn benodol ym maes datblygu addysg Gymraeg. Mi fydd hi’n drychineb i Brifysgol Bangor ac i ddyfodol addysg Gymraeg os bydd y Brifysgol yn ceisio parasiwtio rhywun i mewn o un o brifysgolion Lloegr na fydd ag unrhyw ymwybyddiaeth heb sôn am brofiad o’r cyd-destun Cymreig ac addysgu cyfrwng Cymraeg.
Dylai’r gallu a’r profiad i arwain Prifysgol Gymreig sy’n dysgu pethau trwy gyfrwng y Gymraeg gyda golwg ar ddatblygu hyn gael ei ysgrifennu i mewn i’r swydd ddisgrifiad. Y mae’n set tra wahanol o sgiliau i rheiny sy’n nodweddiadol o rywun sydd wedi bwrw ei brentisiaeth mewn Uni yn Lloegr.
“Arbenigaethau” ydy’r buzz word mawr maen debyg ymysg tîm rheoli Prifysgol Bangor ar hyn o bryd – gwae iddyn nhw anghofio mae eu pennaf arbenigaeth y dylent ganolbwyntio ar ei warchod, ei feithrin a’i ddatblygu ydy ymchwil a dysgu cyfrwng Cymraeg a Chymreig.