Ar y cofnod blog yma ar flog Golwg360 mae Dylan Iorwerth yn llwyddo i bortreadu’n dda’r ffordd y mae S4C wedi cael ei ddefnyddio fel darn o wyddbwyll rhwng y DCMS a’r BBC.
Dyma ddywed Dylan:
Jeremy Hunt: Ti ddim eisio talu am drwydded deledu hen gojars nacwyt? Reit, felly, mi dorra’ i £76 miliwn oddi ar bres y drwydded deledu a’u rhoi nhw i S4C.
Michael Lyons: Yr uffar bach slei. Oes gen i ddewis?
JH: Nacoes.
ML: Reit, ar un amod.
JH: Ie?
ML: Ein bod ni’n cael llais yn rhedeg y sianel.
JH: Ar bob cyfri. Sgen ti syniad sut?
ML: Wel mae yna rywbeth o’r enw BBC Alba yn y gogledd yn rhywle.
JH: Os ydio’n ddigon da iddyn nhw … Grêt!
ML: Oes angen trafod efo pobol Cymru.
JH: Pwy? Oes angen trafod efo BBC Cymru?
ML: Pwy?