Dylanwad llesol yr eglwys ar gymdeithas

Yn ddiweddar, yn Cristion ac hefyd ar fy mlog, rwyf wedi bod yn annog pobl i edrych tu hwnt i grefydd gyfundrefnol er mwyn ail-ddarganfod Cristnogaeth y Beibl ac ail ddarganfod Crist drostynt hwy eu hunain. Rwyf hyd yn oed wedi cyfeirio at ymadroddion beiddgar fel “Everyday people are leaving the Church and coming Back to God” yn ogystal â “Jesus – OK, Church – No Way!”. Rwyf wedi fy nghyhuddo o ddifrïo’r Eglwys lle mewn gwirionedd fy mwriad oedd herio a chwyldroi’r eglwys. Yn y blogiad yma felly fy mwriad yw tanlinellu o’r newydd beth yw’r eglwys a thanlinellu fod rhaid i ni ymroi i’n heglwysi mewn modd radical a graslon yr un pryd.

Maen ystrydebol bellach i gyfeirio a chymharu’r Eglwys a McDonalds – dydy mynd i’r Eglwys ddim yn eich gwneud chi’n Gristion mwy nag y gwnaiff mynd i McDonalds yn eich gwneud chi’n hamburger! Er, fel Protestant da, na gredaf fod yr Eglwys yn gyfrwng i selio iachawdwriaeth rwyf yn argyhoeddedig fod yr Eglwys ac athrawiaeth yr eglwys o bwys canolog i’r Cristion.

Mae’r Beibl yn cyfeirio at yr Eglwys fel Priodferch Crist. Meddai Paul yn Effesiaid 5:25-27:

“Chwi wŷr, carwch eich gwragedd, fel y carodd Crist yntau’r eglwys a’i roi ei hun drosti, i’w sancteiddio a’i glanhau â’r golchiad dŵr a’r gair, er mwyn iddo ef ei hun ei chyflwyno iddo’i hun yn ei llawn ogoniant, heb fod arni frycheuyn na chrychni na dim byd o’r fath, iddi fod yn sanctaidd a di-fai.”

Mae’n debyg fod yr adnodau hynny yn rai sy’n fwy cyfarwydd i chi fel rhai sy’n cael eu darllen mewn gwasanaeth priodasol ond gadewch i ni am ennyd graffu yn fanwl ar yr adnodau. I mi mae’r adnodau yma yn ysgytwol: cymaint yw cariad Iesu dros ei eglwys, ei briodferch – hynny yw y ti a mi os wyt yn credu – fel ei fod wedi rhoi ei hun o’i wirfodd ar y groes drosom ni. Ond nid yn unig hynny ond pan ddaw y dydd (nid os ddaw y dydd) pan ddown i gyd o flaen Duw nid yn unig y bydd hi’n gysur gwybod fod Iesu wedi rhoi ei hun o’i wirfodd ar y groes trosom ond y bydd Iesu ei hun yn ein cyflwyno yn ddi-fai a di-frycheuyn i Dduw yn y nefoedd. Wylwch, o’r fath fraint! Mae rhai diwinwyr o’r farn fod Duw wedi creu’r sefydliad o briodas fel delwedd i ni allu cael mymryn o amgyffred o’r cariad mae Iesu wedi ei ddangos at yr Eglwys. Fe ddywed Joshua Harris yn ei lyfr ‘Stop Dating the Church’ (Multnomah, 2004):

“God invented romance and pursuit and the promise of undying love between a man and a woman so that throughout our lives we could catch a faint glimmer of the intense love Christ has for those He died to save. What passion He has for His Church! Even if you’ve never studied the Bible, you’ve heard echoes of this amazing love throughout your life. Every true love story has hinted at it. Every groom weakened at the sight of his radiant bride has whispered of it. Every faithful, committed, and loving marriage has pointed to it. Each is an imperfect echo of the perfect song of heaven.”

Dyna felly’r olwg hir dymor o bwysigrwydd yr eglwys – yr eglwys yw cymar Crist ei hun. Ond beth am bwysigrwydd fwy ymarferol dydd i ddydd yr Eglwys? Rwyf wedi cyfeirio eisoes at y ffaith nad ydy bod yn aelod o Eglwys yn eich gwneud chi’n Gristion, wedi dweud hynny rwy’n credu ei bod hi’n anodd os nad amhosib byw fel Cristion heb fod yn rhan o Eglwys. Mae dyletswydd ar Gristnogion i fod yn oleuni a halen yn y gymdeithas a’r ffordd orau i ddangos y goleuni a taenu’r halen hwnnw yw fel cymuned wedi dod at ein gilydd. Mae’r gymdeithas ehangach yn fwy tebygol o gymryd sylw o gymuned Gristnogol nag ydyw o Gristnogion unigol wedi eu gwasgaru dros dref, dinas neu ardal helaeth. Drwy gael cymuned o gredinwyr yn cyd-fyw yr efengyl a’r bywyd newydd gall y gymuned yn ehangach weld yr efengyl ar-waith yn arbennig felly pan fo cyfyngderau fel salwch a phrofedigaethau yn dod i’n rhan.

Yr Eglwys oedd asgwrn cefn moesol cymdeithas. Gan anwybyddu demensiwn ysbrydol Cristnogol a’r Eglwys am enyd maen rhaid i ni dderbyn fod Cristnogaeth a’r Eglwys wedi bod o les cymdeithasol sylweddol i Gymru a Lloegr a thu hwnt. Maen anhygoel o drist clywed am yr holl drywanu sy’n digwydd ymysg plant a phobl ifanc yn y dinasoedd yn ddiweddar. Ni allaf i ond deillio’r llwybr llithrig diweddar yma i fethiant trychunebus seciwlariaeth ac annffyddiaeth i ffeindio troed addas i lenwi esgid Eglwys Crist. Ac ofer bydd hi am byth oherwydd dim ond y ffydd Gristnogol all all ddod ac asgwrn cefn moesol yn ôl i ni yng Nghymru. Mae’r dystiolaeth yn dangos fod yr arbrawf seciwlar yn methu.

Please follow and like us:

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.