Dwi ddim yn cael pick ‘n mix yn aml, maen debyg oherwydd mod i rhy embaressed bellach i fynd i ganol y plant i ddewis a dethol fy ffefrynau a gwneud yn siwr fod y balans yn iawn rhwng y pethau siocled ar pethau gelotinaidd. Ond yfory bydd rhaid llyncu fy malchder am mharchusrwydd a mynd i lawr i Woolworths Bangor i gael pick ‘n mix tra bod y siop dal ar agor. Fydd hi ddim ar agor am lawer mwy ar ol i’r cwmni fynd i’r wal heddiw ma.

Roedd gan y cwmni dros £300m o ddyledion a gan nad oedd y cwmni’n gwneud fawr dim elw (os o gwbl bellach?) doedd dim gobaith gyda nhw dalu’r dyledion i’r credydwyr yn ol. Ond wrth gwrs nid phenomenon sy’n effeithio cwmniau mawr yn unig yw hyn ond maen effeithio pob un ohonom ni. Mae gan bawb ddyled.

Yn bersonnol mae gyda mi ddyled o rhai miloedd i’r Student Loan Company sy’n tyfu tua 5% bob blwyddyn. Gan nad ydw i’n yfwr, mod i wedi gweithio tipyn tra yn coleg a fod dy rhieni wedi fy nghefnogi’n hael dydy fy nyled ond ffracsiwn o’r ddyled sydd gan y rhan fwyaf o fyfyrwyr. Mae rhai myfyrwyr yn mynd i’r ddyled lawn o £12,000 ac ar ben hynny yn rhedeg dyled o £1,000 ar gerdyn credid gyda phob banc sy’n dod a dyledion nifer go sylweddol o fyfyrwyr yn agos i’r £20,000. Yn ffodus mae fy nyled i yn fwy rheoladwy na hynny!

Mae gwraidd llawer o’r argyfwng presennol yn ein diwylliant benthyca ni sydd wedi mynd allan o reolaeth yn llwyr. Dwi’n meddwl fod llawer o atebion posib i hunllef y diwylliant dyled yn y Beibl. Dwi wedi bod eisiau edrych yn fanwl beth sydd gan y Beibl i ddweud am ddyled a sgwennu erthygl arno ers tro ond heb gael amser. Yn y cyfamser dyma rai sylwadau off top fy mhen.

Dydy’r Beibl ddim yn gwahardd menthyg arian ond mae yn rhoi canllawiau call. Mae canllaw yn y Beibl yn dweud y dylid canslo dyledion ar ol hyn a hyn o flynyddoedd, gelwir hyn yn flwyddyn Jiwbili. Fe gofiwch chi mae siwr am yr ymgyrch Jiwbili i ddileu dyledion y Trydydd Byd yn y flwyddyn 2000. Ond wedyn medde chi; “byddai neb yn menthyg arian i neb pe tae’n gwybod na chai byth ei arian yn ol wedi’r flwyddyn Jiwbili.” Mi fuasw ni yn menthyg arian ond ni fuasw ni’n menthyg mwy na fuaswn ni’n gwbod y cawn yn ol o fewn y cylch amser penodol. Mi fyddai’r fath gylch fyddai a “cut off point” pendant felly yn magu ysbryd newydd a fyddai’n atal y banciau rhag menthyg symiau hurt o fawr. Byddai’r Jiwbili byddai’n syrthio ar ddyled bob hyn a hyn o flynyddoedd yn gweithio fel regulation fyddai’n atal y banciau rhag cynnig benthyciadau afresymol o fawr.

Boed i chi goelio fod Iesu yn waredwr a’i peidio allw chi ddim gwadu fod cyngor a chanllawiau’r Beibl yn gwneud synnwyr ac yn cynnig ateb chwyldroadol i’n byd cyfalafol, barus a phechadurus ni heddiw.

Yr hyn sy’n rhaid i’r Dde Efengylaidd sydd a’u pobl yn uchel mewn banciau wneud ydy sylwi mae yn Woolworths mae lle pick ‘n mix ac nid yn eu darllen Beiblaidd. Mae rhaid i chi gael eich ail-eni oes ac ydy mae sancteiddrwydd bywyd yn bwysig wrth ystyried erthyliad ond mae canllawiau’r beibl ar drin arian a dyled yn bwysig hefyd.

Mae bryd cyhoeddi blwyddyn Jiwbili a dechrau eto!

Please follow and like us: