Wnes i gychwyn ar fy nghyfres o astudiaethau trwy Efegyl Marc heno ym Mhenuel. Mae arwain yr astudiaeth yn un o’r cyfrifoldebau dwi wedi gael fel rhan o fy ngwaith i fel Bugail dan hyfforddiant. Daeth criw reit dda at eu gilydd, deg ohonom ni, a cawsom ni drafodaeth ddifyr a brwd ar ôl i mi wneud cyflwyniad bach am y testun ar y dechrau. Byddw ni’n gweithio trwy Efengyl Marc trwy’r gaeaf a dwi’n gobeithio rhannu’r nodiadau ar wefan Penuel er mwyn i bobl edrych dros yr adnodau eto ac hefyd rhoi cyfle i bobl o du allan yr Eglwys gael darllen a’u defnyddio; nid mod i’n tybio am funud eu bod nhw’n gyfraniad o bwys i’r toreth o ddeunydd astudio’r Beibl sydd eisioes allan yna.
Mae nodiadau’r sesiwn gyntaf bellach ar wefan Penuel fan YMA.
Pob bendith i’r astudiaethau.
Un o’r pethau oedd yn fy siomi ar wefan y capel oedd y sylw “yn achlysurol mi fyddwn ni’n cynnal cyfarfod gweddi neu’r Gymdeithas yn lle’r Astudiaeth Feiblaidd arferol”.
Dyma, mi dybiaf, yw un o’r rhesymau am dranc yr Efengyl yng Nghymru. Rhywbeth i lenwi bwlch yw “Cyfarfod Gweddi”, peth eilradd os nad yn isradd. Pan nad oes gweinidog na phregethwr lleyg, na neb i lenwi bwlch wneith cyfarfod gweddi’r tro. Os nad yw arweinydd y dosbarth Beiblaidd ar gael bydd rhaid inni gael cyfarfod gweddi achlysurol yn lle’r dosbarth rheolaidd.
Trwy weddi yr ydym yn dod yn agosaf at Dduw, trwy weddi yr ydym yn fwyaf agored i ddymuniad Duw ar ein cyfer. Os ydym am weld llwyddiant yr Efengyl yn ein gwlad eto rhaid inni ddyrchafu’r Cwrdd Gweddi yn ôl i’w briod le fel y pwysicaf o gyfarfodydd yr Eglwys.
Diolch Alwyn.
Dwi’n cytuno 100% efo ti am y duedd anffodus gyda’r “Cyfarfod Gweddi”. Mae sawl person ym Mhenuel wedi codi’r gonsyrn hefyd ac wrth ein bod ni’n trawsffurfio’r Eglwys mi fyddw ni, bid siŵr, yn ail-asesu a rhoi’r lle priodol i weddi ym mywyd yr Eglwys.
Mae yna stori ddifyr am Emrys ap Iwan yn does – rhyw gyfarfod sasiwn neu rhywbeth a’r bonwrs yn mynd i’r festri ar ryw bwynt yn y cyfarfod i arwyddo rhywbeth neu gilydd a’r Llywydd yn gofyn i Emrys ap Iwan offrymu gweddi yn y cyfamser. Gwrthododd Emrys weddio wir gan brotestio mae nid ymarferiad i wastraffu amser ydy gweddio!