Effaith mynychu Prifysgol ar dueddiadau crefyddol

Ar hyn o bryd dwi wrthi yn darllen cyfrol gyntaf ‘Ffydd ac argyfwng Cenedl’ ac maen chwith gyda mi gyfaddef mae dyma’r tro cyntaf i mi weithio trwyddi er mod i’n dod i ddiwedd fy ail flwyddyn yn gwneud doethuriaeth am R. Tudur Jones, awdur y gyfrol!

Yr hyn a’m trawodd heno oedd darllen ystadegyn am yr 1890s oedd yn dweud mai dim ond 10 y cant o blant yr eglwysi fyddai’n parhau’n aelodau eglwysig wedi iddynt fudo i Lerpwl ar dinasoedd mawrion i weithio. Mor debyg yw’r phenomenon ymysg myfyrwyr Cymraeg heddiw o gael eu derbyn yn gyflawn aelod neu eu bedyddio jest cyn mynd i’r coleg yna wedi cyrraedd Aberystwyth, Bangor neu lle bynnag ni fyddant yn twllu cyfarfod am dair mlynedd heb son am ymroi yn llawn i fywyd eglwys tra yn y coleg.

Maen amlwg fod had problem heddiw wedi ei hau yn natblygiadau mudo a thraddodiadau crefyddol dros ganrif yn ol. Ydy pobl yn meddwl fod Duw yn cael time off tra eu bod nhw yn y brifysgol? Wn i ddim wir.

Please follow and like us:

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.