Pe bae i chi gymharu eglwys gyda thîm pêl droed mae’n debyg mae’r gymhariaeth y byddai llawer yn ei wneud ydy dweud mai’r Gweinidog neu’r Pregethwr yw’r star player, y centre forward. Ond nid dyna sut y dylai hi fod. Fe ddylai rôl y Gweinidog fod yn debycach i rôl y rheolwr mewn tîm pêl droed. Rhoi arweiniad i bawb arall, adnabod cryfderau a gwendidau’r tîm cyfan, gweld pwy all chwarae orau ym mha safle. Ond yn fwyaf pwysig gwneud yn siŵr fod pawb yn chwarae fel tîm er lles dyfodol y tîm a llwyddiant y tîm.
Os mae’r Gweinidog felly yw’r rheolwr mae’n bwysig i’r rheolwr gofio hefyd mae nid fe yw perchennog y clwb. Mae’n amlwg pwy yw hwnnw gobeithio.
Rygbi’r Undeb – Catholigion
Rygbi’r gyngrair – Protestant
Peldroed – Mwslemiaid
Gwrthod chwarae – anffyddwyr
etc…!
Gobeithio fod Duw yn fwy parod i faddau na rhai o berchnogion timoedd yr Uwch Gynghrair!