Un o’r pethau mwyaf cyffrous am waith yr Arglwydd yng Nghymru ar hyn o bryd yw’r paratoadau i blannu eglwys Gymraeg newydd sbon danlli yn Abertawe. Fy ffrind John Derek Rees fydd yn arwain y fenter newydd a dwi wedi bod yn ei helpu i roi’r wefan a rhai ffilmiau byr at ei gilydd. Syrffiwch draw i abertawe.info.
Please follow and like us:
Mae’n galondid gweld bod Duw ar waith. Mewn cyfnod o ddirywiad moesol a chrefyddol, mae’n dueddiad i’r eglwysi ddigaloni a gwneud llai. Dyna’r amser, fodd bynnag, i fod yn gwneud mwy – i weddio’n ddiball ac i bregethu gair Duw ar bennau’r tai. Mae’r Arglwydd yn Dduw ffyddlon ac ni fydd yn ein gadael.
Rhaid gweithio’n ddygn er mwyn cael y defaid yn ol i’r gorlan. Grandawed bawb a chanddynt glystiau i wrando, mae Ysbryd yr Arglwydd ar waith yn Abertawe! Rwy’n eich sicrhau o’m gweddiau!
Bendith
Gweinidog efo eglwys Pentecostaidd Elim yn Birmingham ydw i. Dwi’n meddwl fy mod i yr unig weinidog yn ein henwad sydd yn Gymro Cymraeg. ‘Rwyf wedi bod yn weinidog efo Elim am dros deunaw mlynedd. Er fy mod wedi bod allan o Gymru am yr holl flynyddoedd ‘rwyf wedi bod yn y weinidogaeth, mae Duw wedi rhoi chwant yn fy ysbryd am Gymru. ‘Rwyf wedi dechrau pregethu yn Gymraeg yng nghapeli Cymraeg y canoldir pryd mae’r gwasanaethau yn fy eglwys fy hun yn fy rhyddhau. ‘Rwyf wedi cael y fraint mawr i dethio’r byd a phregethu yn llawer gwlad. Byddaf yn ymddeol mewn tua dwy flynedd a hanner a ‘dwi’n credu fod Duw esiau i mi gwneud rhywbeth iddo ef yng Nghymru. Dwi ddim yn credu fod na eglwys Gymraeg Pentecostaidd yng Nghymru. Mi fyswn yn hapus iawn i gael cymundeb efo Critnogion Efengylaidd Cymraeg sydd yn agor i’r Ysbryd Glan.
Bob Bendith,
Maldwyn Jones