Ers darllen Sgythia – Hanes John Dafis, Rheithor Mallwyd gan Gwynn ap Gwilym dros yr haf dwi wedi bod eisiau ymweld ag Eglwys Mallwyd. Daeth cyfle wythnos yma wrth i mi basio ar y ffordd i gyfarfod yn y de a heb fod ar ormod o frys. Gwaetha’r modd ni ches gyfle i fynd i chwilio am y Rheithordy na’r tai a’r pontydd eraill sy’n cael eu trafod yn y nofel. Pan roeddwn i’n darllen y nofel sylwais fod yna ddiffyg lluniau da o’r Eglwys ar y we felly dyma rannu rhai yn y gobaith y bydd eraill yn dod ar eu traws drwy Gwgl wrth ddarllen y nofel… er yn deall y byddai’r eglwys yn edrych yn dra gwahanol yng nghyfnod John Dafis wrth gwrs.

Please follow and like us: