Dwi newydd ddychwelyd o’r Eisteddfod ac roedd hi’n wythnos braf iawn. Fe wnes i dreulio’r rhan fwyaf o’r wythnos yn cynorthwyo Cymdeithas yr Iaith – yn tynnu lluniau o’r digwyddiadau ar y maes yn ystod y dydd a gwneud peth stiwardio a rheoli llwyfan yn gigs y Gymdeithas gyda’r nos. Am flynyddoedd roeddwn i’n rhan o dîm y Gorlan, dwi heb helpu’r Gorlan ers rhai blynyddoedd bellach ond roedd hi’n wych clywed fod tîm da o wirfoddolwyr yna eleni a bod y gwaith wedi mynd yn dda – mae eu ffydd yn Nuw a’u cariad yn gwasanaethu yn yr Eisteddfod i’w edmygu.
Nid yw Cymru ar werth
Uchafbwynt gwleidyddol yr Eisteddfod i mi oedd protest y Gymdeithas ar y dydd Gwener yn erbyn datblygiadau tai anghynaladwy Cyngor Sir Ddinbych. Mae’r Gymdeithas yn deall fod angen peth datblygu tai a hynny ar sail anghenion lleol ond mae cynlluniau Cyngor Sir Ddinbych fel sawl sir arall yn anghynaladwy ac yn datblygu ar gyfer mewnlifiad yn hytrach na datblygu i warchod a chryfhau’r cymunedau lleol sydd eisoes yna. Fe wnaeth Menna a Toni siarad yn danbaid ac yn wych a da oedd cael cyfle i wneud ychydig o brotestio caled drwy weithredu’n ddi-drais ar stondin Cyngor Sir Ddinbych.
Cristion
Bues i hefyd yn gwneud ambell i beth ar stondin yr Eglwysi. Roedden ni’n cyhoeddi rhifyn cyntaf y cylchgrawn CRISTION ar ei newydd wedd a dan olygyddiaeth Menna, Gwenno Mererid a fi. Dwi’n bles iawn yda’r rhifyn cyntaf. Ewch draw i wefan cristion.net i danysgrifio – dim ond £15 y flwyddyn a derbyn y 6 rhifyn trwy’r post am hynny yn unig! Bargen! Sesiwn arall fues i’n rhan ohono ar stondin yr eglwysi oedd cadeirio sgwrs banel gyda Peter Thomas, Ysgrifennydd y Bedyddwyr, Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Annibynwyr a Barry Morgan, Archesgob Cymru. Y duedd gyda sesiynau fel hyn yw mynd i siarad siop a thrafod strwythurau eglwysig a’r ffordd ymlaen ayyb… Roeddwn i am osgoi hynny felly wnes i eu holi ynglŷn â’u ffydd bersonol nhw a’r dylanwadau arnyn nhw fel unigolion yn hytrach na nhw yn eu harswydus swyddi. Dwi’n meddwl i’r sesiwn fod yn ddifyr a buddiol er mod i’n synhwyro y byddai’r tri wedi bod yn fwy cyfforddus yn siarad siop na thrafod eu ffydd bersonol nhw eu hunain!
John Gwilym Jones
Y digwyddiad arall fues i’n rhan ohoni oedd sesiwn wedi ei threfnu gan Undodwyr Cymru er mwyn trafod ffydd ar y we. Roeddwn i, Arfon Jones o beibl.net, Sian Howys, Wyn Thomas (Undodwr), Cathrin Daniel (Cymorth Cristnogol), Mabon ap Gwynfor a John Gwilym Jones (Cristnogaeth 21) yn cymryd rhan gyda Carwyn Towyn (Undodwyr Cymru) yn cadeirio. Ar y cyfan roedd yn sesiwn digon difyr ond yr hyn wnaeth aros gyda mi oedd unig gyfraniad John Gwilym Jones i’r drafodaeth lle wadodd arbenigrwydd ac unigrywiaeth Iesu Grist fel Arglwydd a Gwaredwr gan bledio’n hytrach gyffredinoliaeth (universalism) bur. Roedd ei weledigaeth wrth gwrs yn gyson a barn yr Undodwyr wnaeth drefnu’r sesiwn ond yn gam pendant a chlir i ffwrdd o bob diffiniad o Gristnogaeth. Roedd John Gwilym yn dyheu i fwyfwy o Gristnogion Cymru ddilyn ei weledigaeth ef, ond i mi mae’n galondid fod y math yma o weledigaeth dim ond yn dangos ei hun ymysg y genhedlaeth hŷn tra bod y genhedlaeth iau o Gristnogion yng Nghymru yn parhau i garu a dilyn Iesu Grist fel y ffordd, y gwirionedd a’r bywyd.
Gigs Cymdeithas yr Iaith
Trefnwyd gigs Cymdeithas yr Iaith eleni gan y Schiavone’s – Corleone’s y Sin Roc Gymraeg. Roedd y rhan fwyaf o gigs wedi gwerthu allan a’r lleill o leiaf 75% llawn. Yn wyneb y ffaith fod y steddfod yn trefnu gigs ar faes yr Eisteddfod ac yn dal pobl ar y maes yn hytrach na mynd i’r gymuned leol roedd gigs y Gymdeithas yn llwyddiant ysgubol. Un o uchafbwyntiau’r wythnos i mi oedd set Geraint Jarman ar y nos Iau. Wedi dweud hynny fe wnes i fwynhau ei berfformiad yng Nghastell Caernarfon ychydig wythnos yn ôl yn fwy, ond yn yr Eisteddfod fe wnaeth e berfformio rhai caneuon wnaeth e adael allan yng Nghaernarfon fel Ethiopia Newydd, Paid Dwyn Dy Hun i’r Dwfn ac yna gorffen ei set ychydig yn annisgwyl gyda’r clasur Nos Da Saunders. Fy unig gŵyn yw nad yw fy ffefryn i, Cwn Hela, yn rhan o’i set byw ar hyn o bryd. I mi mae Geraint Jarman a’i fand o gerddorion proffesiynol ben ag ysgwyddau uwchben unrhyw beth arall yn y Sin Roc Gymraeg ar hyn o bryd. Gobeithio y bydd yn parhau i gigio’n gyson dros y blynyddoedd i ddod. Hefyd, dwi’n meddwl, efallai fod Peredur ap Gwynedd wedi goddiweddyd Chris Lewis (Jess) fel fy hoff gitarydd Cymraeg!
Swnami a Yr Ods
O ran y bandiau ifanc dwi’n meddwl mai’r uchafbwynt i mi oedd set Swnami ar y nos Sadwrn olaf. Roedden nhw mor mor dyn ac mae ganddyn nhw ganeuon bachog. Mae dweud hyn yn rhywfaint o ystrydeb bellach ond am yr hyn maen nhw’n eu gwneud maen nhw gystal ag unrhyw beth yn yr iaith fain. Daeth yr wythnos i ben gyda set Yr Ods – roedd hwn eto yn berfformiad proffesiynol ac arbennig ganddyn nhw yn arbennig gan gofio eu bod nhw wedi perfformio ar y maes ychydig oriau yn gynt ac yn maes b y noson flaenorol. Byddai llawer o fandiau Cymraeg jest wedi yfed gormod erbyn y pwynt yma, wedi blino a ddim yn trafferthu rhoi perfformiad da – ond perfformiad gwych rhoddodd Yr Ods i orffen yr wythnos. Gan fod gymaint o’r band ynghlwm a phrosiectau eraill (cerddorol a jest gwaith dydd i ddydd teledu/radio ayyb….) roeddwn i’n ofni ychydig fisoedd yn ôl y byddai’r Ods yn dod i ben neu o leiaf yn rhygnu yn ei flaen heb gyfeiriad. Ond gyda LP gwych newydd allan a’r perfformiad byw gyda’r gorau yn y Sin Gymraeg ar hyn o bryd mae’n dda gweld Yr Ods yn mynd o nerth i nerth. Ond, ar nodyn personol, dwi’n siomedig fod fy hoff gan i Nid Teledu Oedd y Bai, ddim yn eu set byw bellach.
Hwyl – tan Eisteddfod Llanelli 2014!