Roeddw ni’n darllen y stori yma ar wefan y BBC heddiw am un o brif arweinwyr ETA yng Ngwlad y Basg yn cael ei arestio. Bob tro byddaf i’n clywed am ETA ar y newyddion a gan bobl bydd fy mhen i’n llawn o deimladau cymysg. Ar un llaw alla i ddim a chymeradwyo eu tactegau, fel Cenedlaetholwr Cristnogol dwi’n dal fod y genedl ac iaith yn bwysig wrth gwrs ond maent yn wrthrychol i sancteiddrwydd bywyd ac i Dduw. Ond ar y llaw arall dwi’n gydymdeimladol i amcanion ETA ac yn fwy pwysig dwi’n gweld rhagrith pur yn y ffordd mae’r Wladwriaeth a’r Cyfryngau Sbaeneg a Prydeinig yn trin a thrafod ETA.

Cymerwch Garikoitz Aspiazu Rubina gafodd ei arestio heddiw. Nid mod i’n cefnogi ei weithgaredd treisiol sydd maen debyg wedi arwain at farwolaeth pobl ond diwedd y dydd ymladd dros ryddid ei bobl a rhyddid ei wlad oedd Rubina. Onid arwr mawr y Saeson oedd Winston Churchull? Gŵr a fu’n gyfrifol am fomio, yn enw rhyddiad ei bobl a’i wlad, miloedd o Almaenwyr cyffredin i’w marwolaeth yn Dresden a dinasoedd tebyg yn yr Ail Ryfel byd. Dyma wrth gwrs yw rhagrith cenhedloedd imperialaidd ac mae’r ieithwedd sydd wedi ei ddefnyddio heddiw gan y BBC wrth adrodd am arestiad Rubina yn Ne Ffrainc yn dangos fod imperialaeth yn fyw ac yn iach.

Yn hyn o beth mae gan Michael D. Jones air da o feirniadaeth o ragrith imperialaeth. Bu’n draddodiad ymhlith Protestaniaid i ddeall y cyfeiriadur Beiblaidd at “Babilon Fawr” fel proffwydoliaethau yn erbyn Eglwys Rufain. Gwrthyd Michael D. Jones yr esboniad hwn. “Wrth Babilon Fawr y deallaf fi, llywodraeth unbenaethol a phendefigol yn ei gwahanol agweddau, wedi ei seilio ar drais a gormes y drefn filwrol.” O gymryd y safbwynt hwn, gwêl y datganiadau ffyrnig yn y Beibl yn erbyn Babilon, fel geiriau i’w cymhwyso at y frwydr fodern yn erbyn imperialaeth.

Y drychineb, yn Sbaen ac ym Mhrydain, yw fod awenau llywodraeth wedi disgyn i ddwylo pobl ormesol. Yr oedd yn arwyddocaol fod y Diafol wedi ceisio temtio Iesu Grist trwy gynnig teyrnasoedd y ddaear iddo oherwydd, yn ôl MDJ, y “Diafol bia bob llywodraeth ag sydd wedi ei seilio ar ormes a thywallt gwaed.” Gwrthododd Iesu ddefnyddio trais a rhyfel i sefydlu ei deyrnas. O ganlyniad, y mae polisi tramor Prydain a pholisi mewnol Sbaen yn erbyn y Basgwyr am y pegwn â dysgeidiaeth Iesu. Nid yw gweithredoedd llywodraeth Lloegr a Sbaen yn Iwerddon a Gwlad y Basg fymryn gwell na’r hyn y cyhuddir ETA ohono.

Y mae imperialaeth yn ei hanfod yn anfoesol ac nid yw’n rhyfedd ei bod yn esgor ar bob math o ddrygioni, oherwydd os yw ymreolaeth yn dda i Loegr a Sbaen, gellid meddwl fod yr un peth yn llesol i bob gwlad. Mae Michael D. Jones yn glir yn ei feddwl beth yw’r egwyddor foesol sylfaenol yn y cyswllt hon: “Credaf finnau fod gwirionedd yn ddigyfnewid fel y Duwdod, ym mhob lle ac amser, ac mai cyfiawnder yw i bob cenedl gael llywodraethu ei hunan. Mae gwneud caethion darostyngedig o genhedloedd yn drosedd yn erbyn dynoliaeth, fel gwneud caethion o bersonau, a chredaf mai llywodraeth oresgynnol yw Babilon Fawr y Beibl, gyda’r hon y puteiniodd holl frenhinoedd y ddaear…” Felly, yn enw moesoldeb, dynoliaeth ac addysg y Beibl, nid oes gan y Cymry ddewis ond gwrthwynebu imperialaeth hyd eithaf eu gallu a chofio na wnaeth Garikoitz Aspiazu Rubina o ETA gafodd ei arestio heddiw ddim byd gwaeth nag y mae Gwladweinyddion blaenllaw fel Churchill wedi bod yn euog ohono.

Please follow and like us: