Rhys ! – dyma’r union beth y gobeithais fy mod wedi dy rybuddio rhagddo ym Ml 7 !!!
Ni ddylid cynrychioli mesurau llinol gyda delweddau dau-ddimensiwn.
Er mai dim ond dwywaith nifer seddi annibynol y cafodd Plaid Cymru, mae arwynebedd eu cylch tua bedair gwaith yn fwy, ac felly’n camarwain y llygad . Dylid defnyddio siart un-dimensiwn yma, megis siart bar.
‘Spin’ teilwng o’r ‘Lib-Dems’ ar eu gorau !
Stanno
on 05/05/2012 at 9:48 am
Da, dwi wrth fy modd efo bach o inffograffeg, ond mae hwn braidd yn gamarweiniol! Ar gyfer graff fel hyn, arwynebedd y cylchoedd sy’n bwysig, nid y diamedr. (I’r llygad, mae’r cylch llwyd tua chwarter maint yr un gwyrdd, ond mae fod tua hanner – felly mae hwn yn gwneud i Blaid Cymru edrych tipyn yn fwy llwyddiannus na fuon nhw mewn gwirionedd). Byddai axis llorweddol yn well hefyd, ar hyd canol y cylchoedd (eto, er mwyn i’r llygad brosesu’r wybodaeth yn deg a chyflym).
Ac i fod yn arbennig o pici – mewn sefyllfa lle mae’r cyfanswm yn hysbys ac yn bwysig (hy. nifer y cynghorwyr), mae graff pei yn fwy addas. Mae graff cylchoedd mwy ar gyfer cymharu rhifau i’w gilydd lle dyw’r cyfanswm ddim yn berthnasol – graff i ddangos nifer yr aelodau cyffredin sydd gan y pleidiau, dyweder.
Beirniadaeth adeiladol, gobeithio, gan bedant ystadegau!
Iwan a Huw – rydych chi wrth gwrs yn gwbl gywir. Doeddwn i fawr o fathamategydd yn ysgol ac mae hi’n parhau felly – athseteg y graffeg oedd yn fy mhoeni’n fwy na’i chywirdeb. Wps.

Er gwybodaeth beth wnes i oedd cychwyn efo cylch 100x100pixel ac yna creu o hwnnw gylchoedd 37×37 pixel, 18x18pixel ayyb… gwridaf.
Da was ! . Pan ddaw yr etholiad nesaf , bydd y pleidiau oll yn gyrru bws drwy synnwyr ystadegol.