Mae’r Gymraeg ar agor i gael ei gyfieithu! 🙂

Mae’n broses fawr sydd ar hyn o bryd dim ond gyda 84 o bobl yn rhan o’r prosiect er fod miloedd o Gymry Cymraeg ar Facebook. Os nad ydych chi ffansio gwneud unrhyw gyfieithu yna peidiwch a phoeni oherwydd yr hyn sydd angen ydy defnyddwyr i bleidleisio ar y cyfieithiadau gorau fydd yn cael eu derbyn ac fe all bawb wneud hynny.

Ar hyn o bryd mae’r 133 o dermau craidd wedi eu cyfieithu ond maen rhaid i ni gael pobl i bleidleisio dros y termau i’w derbyn yn swyddogol cyn mynd ymlaen i gyfieuthu y cymal nesaf sy’n 20,000 o frawddegau!! Felly ymunwch yn y dasg – wnaiff pleidleisio dros y 133 term dechreuol ddim cymryd mwy na 15 munud i chi.

Ewch yma, a dewisiwch Cymraeg i helpu gyda’r gwaith

Please follow and like us: