Cwestiwn fydda i’n ei gael yn aml a chwestiwn fydda i’n holi Gweinidogion eraill yw faint o amser mae’n ei gymerid i sgwennu pregeth? Cwestiwn anodd iawn i’w ateb. A siarad mewn termau amser pur mae’n cymryd tua un diwrnod gwaith – 6 i 8 awr efallai. Ond dydy e ddim cweit mor syml â hynny oherwydd yn ei hanfod gweithred o ffydd ydy paratoi pregeth nid gweithred fecanyddol fel prosesau cynhyrchu na hyd yn oed prosiectau “creadigol” eraill fel ysgrifennu erthygl i gylchgrawn.

sermons-2

Y cwestiwn cyntaf i gnoi cil arno yw beth yn union yw pregeth? Nid rhannu eich syniadau eich hun yw pregeth. Ond nid esbonio’r Beibl yw pregeth chwaith (fel mae rhai yn meddwl), astudiaeth Feiblaidd yw hynny, neu ddarlith hyd yn oed. Mae pregeth yn wahanol. Hanfod pregeth yw esbonio Gair Duw wrth gwrs, ond mae a wnelo hefyd a dod a Gair Duw yn fyw drwy nerth yr Ysbryd Glân. Rhaid dechrau gydag esbonio beth mae Gair Duw yn dweud, ond wedyn drwy arweiniad yr Ysbryd Glân rhaid mynd ymlaen i herio a chalonogi drwy ddangos beth mae’r Gair yma gan Dduw yn ei olygu i TI, i NI ac i BAWB heddiw. A dyna le mae hi’n dod yn anodd mesur amser pan mae’n dod i ysgrifennu pregeth oherwydd fydd y bregeth ddim wedi gorffen cael ei ysgrifennu tan ei bod hi wedi gorffen cael ei thraddodi oherwydd bydd yr Ysbryd Glân yn dotio’r i’s ac yn croesi’r t’s wrth i chi fynd. Dyna’r ochr ysbrydol i’r peth felly – rhaid paratoi a thraddodi pregeth mewn gweddi ac yng ngrym yr Ysbryd Glân.

Ond a siarad yn fwy ymarferol dyma’r camau dwi yn bersonol yn mynd trwyddyn nhw. Yn gyntaf dwi’n edrych ar y testun Beiblaidd sydd wrth law, yna yn troi at wahanol lyfrau a meddalwedd esboniadol (h.y. Bible Commenteries a Study Bibles) er mwyn ceisio deall beth sy’n mynd ymlaen. Ar ryw wedd y rhan cyntaf yma, a’r rhan fwyaf pwysig, yw’r hawsaf gan fod pregethwyr heddiw yn gallu troi at ganrifoedd o gyfoeth cyhoeddedig er mwyn ein helpu ni i ddeall y Beibl a’i esbonio i eraill. Ond wedyn daw’r elfen fwy proffwydol sef, gyda chymorth yr Ysbryd Glân eto, holi beth mae’r darn yma o’r Beibl yn dysgu i ni heddiw yng Nghaernarfon yn 2013. Gall y rhan yma ddod atoch chi fel mellten mewn pum munud. Ond gall y rhan yma hefyd fod yn frwydr ysbrydol all gymryd rhai oriau – weithiau diwrnodau – i ddod trwyddi nes gweld yn glir: ‘A ie! Dyna yw pwynt y gwirionedd yna i ni yma heddiw!’

Yn olaf, mae’n bwysig mynd yn ôl dros y cyfan ac edrych lle y gellir cynnwys hanesion difyr ac ychydig o hiwmor sy’n gymorth i gario’r neges. Dwi’n gredwr cryf mewn cynnwys cynifer o ddelweddau, hanesion a hiwmor ac sy’n bosib mewn pregeth. Yn bersonol mae gen i attention span byr iawn felly mi fydd pregethwyr eraill sydd ddim yn plethu’r elfennau hyn mewn i’w pregeth yn fy ngholli i yn sydyn. O brofiad personol felly dwi’n gwybod am bwysigrwydd cynnwys y technegau dal sylw yma! Ond wrth gwrs mae angen doethineb a chynildeb, ar rai adegau dwi wedi rhoi mwy o sylw i’r gaffs nag i’r sylwedd ac wedi dysgu o fy nghamgymeriadau. Wedi dweud hynny dwi hefyd wedi pregethu ambell i bregeth oedd a digon o sylwedd ond fod y sylwedd yna heb ddod yn fyw i bobl oherwydd nad oedd y neges wedi cael digon o ddelweddau ac ati i’w chario hi.

emotional-movements-of-a-sermon

Wrth baratoi pregeth mi fydda i’n cadw nodiadau blêr a brysiog mewn llyfr nodiadau. Yna mi fydda i’n defnyddio’r nodiadau yna i sgwennu’r bregeth. I gychwyn mi fydda i’n ysgrifennu’r bregeth fel pe tasai hi’n draethawd neu’n bennod mewn llyfr. Yna bydda i’n mynd trwyddi eto a’i thorri hi fyny mewn i brif bwyntiau. Dros frecwast ar fore traddodi’r bregeth mi fydda i’n edrych trwy’r pwyntiau yma gyda highlighter pen ac yn dwyn sylw fy hun at brif ergyd pob pwynt trwy’r bregeth. Yna wrth draddodi bydda i’n ceisio bod mor rhydd o’r nodiadau a medra i. Yn sicr ni ddylai pregethwyr fod yn darllen sgript gair am air. Dwi wedi dysgu fod gwerth 1,500 o eiriau o nodiadau yn rhoi pregeth 25 munud i mi. Mae hynny’n ddefnyddiol i wybod oherwydd pan mod i’n paratoi neges fer ar gyfer oedfa Nadolig rwy’n gwybod mae gwerth tua 600 o eiriau sydd angen ar gyfer neges 10 munud, ar gyfer neges hirach mewn cynhadledd 3,000 o eiriau ayyb…

Er bod y manylion ymarferol yn ddifyr ac o gymorth i bobl eraill sy’n pregethu cofiwch mai’r elfen fwyaf pwysig yw llawer o weddïo wrth baratoi ac yna dilyn Ysbryd Duw.

Please follow and like us: