Bydd pobl yn gofyn i fi’n aml ‘faint o amser mae’n cymryd i ti sgwennu pregeth?’. Nid oes ateb syml. Fel arfer dwi’n cymryd un diwrnod gwaith i baratoi ar gyfer y Sul. Weithiau nid yw hynny’n bosib ac mae rhaid paratoi neges mewn awr neu ddwy bnawn dydd Sadwrn. Ond weithiau os nad oes gormod o alwadau eraill yr wythnos honno mae modd cymryd mwy ‘na diwrnod i baratoi (anaml iawn iawn mae hyn yn digwydd!). Felly i ateb y cwestiwn ‘faint o amser mae’n cymryd i ti sgwennu pregeth?’ mae’n cymryd faint bynnag o amser ac sydd gen i! Os oes gen i ddiwrnod i baratoi yna gwych. Ond os mai dim ond dwy awr sydd gen i yna rhaid gwneud y mwyaf o’r ddwy awr yna!

Dwi’n ffodus mai dim ond un bregeth newydd sy’n rhaid i mi baratoi bob wythnos, a dwi’n ffodus hefyd mod i’n cael wyth Sul rhydd y flwyddyn. Ond mae dal angen i mi baratoi 44 pregeth newydd bob blwyddyn. Mae hynny’n 352 o bregethau ers cychwyn fel Gweinidog. Dwi’n paratoi tua 1,500 o eiriau o nodiadau i bob pregeth felly cyfanswm o dros hanner miliwn o eiriau o nodiadau erbyn hyn – digon ar gyfer pump PhD! Dychmygwch faint o ddeunydd a nodiadau sydd gan Weinidogion sydd wedi bod yn pregethu ers dros hanner can mlynedd yn eu stydis!

Ond o ddifri, mae paratoi neges ffres newydd bob wythnos yn her, mae’n anodd ar adegau. Ond mae dwy egwyddor yn bwysig i fi. Y cyntaf yw gadael i’r Ysbryd Glân arwain. Roedd yna gyfnod lle roeddwn i’n mynd yn syth at lyfrau, esboniadau Beiblaidd a podcasts gan bregethwyr eraill – bron cyn mynd at y testun Beiblaidd ei hun. Roedd y pregethau hynny yn ddiflas a mwy fel darlithoedd na phregethau mewn gwirionedd. Bellach dwi jest yn treulio amser gyda’r testun Beiblaidd ei hun a gadael i’r Ysbryd Glân wneud i bethau neidio allan o’r testun. Dim ond wedyn dwi’n troi at esboniadau Beiblaidd. Gan nad ydw i yn deall yr ieithoedd gwreiddiol nac a rhyw lawer o wybodaeth am gyd-destun llawer o’r Beibl mae yn bwysig darllen beth sydd gan yr arbenigwyr i ddweud. Rhan fwyaf o’r amser mae’r esboniadau Beiblaidd yn ategu’r hyn oedd wedi sefyll allan i mi. Ond weithiau, rhaid cyfaddef, fod rhaid i mi ail-ystyried rhai pethau ac ail-sgwennu peth o’r nodiadau oherwydd mod i wedi cam-ddeall y testun.

Yr ail ddisgyblaeth wrth baratoi pregeth yw cofio mae rôl y pregethwr yw dod a Gair Duw yn fyw i bobl heddiw. Nid rôl pregeth yw jest esbonio’r testun Beiblaidd yn sych a strêt. Os ydych chi am wneud hynny ma’ ‘na man i’ch praidd aros adre yn darllen esboniadau Beiblaidd. Rhaid i bregeth gyd-destunoli y testun. Gweld beth sydd gan y testun i ddweud wrth bobl heddiw. Dyna pam dwi’n hoffi’r hen ddelwedd ynglŷn â’r pregethwr fel rhywun sy’n dal y Beibl mewn un llaw a’r papur newydd yn ei law arall. Os na fydd y pregethwr yn gwybod beth sy’n mynd ymlaen yn y byd, mewn cymdeithas ac ym mywydau ei braidd sut all bregethu’r Beibl i’r bobl yna yn effeithiol?

Ond fy ngwir broblem i yw diffyg amser i wneud unrhyw beth o’r hyn dwi wedi nodi uchod yn iawn. Neu efallai fod diffyg disgyblaeth yn fwy o broblem ‘na diffyg amser. Dwi’n ffeindio amser i wneud pethau llai pwysig a llai dyrchafol wedi’r cyfan … fel sgwennu’r blog yma!

Felly tymor yma dwi’n gobeithio bod yn fwy disgybledig wrth neilltuo un diwrnod penodol bob wythnos i weddïo, darllen y Beibl a pharatoi fy mhregethau. I warchod y diwrnod hwnnw bydd rhaid i mi fod yn fwy disgybledig i gael pob dim arall wedi ei wneud ar y diwrnodau eraill ac mi fydd rhaid i mi fod yn ddigon cadarn i ddweud “na” pan fydd pobl yn gofyn i mi wneud pethau eraill ar y diwrnod neu ofyn am gael cyfarfod ac ati.

Rhan fwyaf o wythnosau dydd Iau fydd y diwrnod hwnnw. Felly, helpwch fi! Os gallwch chi aros tan ddydd Gwener cyn fy e-bostio neu ofyn am gyfarfod, neu ofyn i mi wneud yr hwn a’r llall, bydd hynny yn help mawr.

Ar wythnos arferol dyma sut fydd fy mhatrwm gwaith yn gweithio tymor yma gobeithio:
Dydd Llun – diwrnod off/gofalu am Cadog
Dydd Mawrth – bugeilio / cyfarfodydd / manion gweinyddol
Dydd Mercher – gweithio i Gyhoeddiadau’r Gair
Dydd Iau – gweddi / astudio’r Beibl / paratoi at ddydd Sul
Dydd Gwener – bugeilio / cyfarfodydd / manion gweinyddol
Dydd Sadwrn – gorffen paratoi at y Sul (bore) / rhydd (pnawn)
Dydd Sul – oedfaon (bore, pnawn a nos … fel arfer)

Yn amlwg bydd rhaid ffeirio diwrnodau o gwmpas weithiau – ond dwi am drio cadw at y patrwm gwaith yma.

Please follow and like us: