Mae’n ffetish ymysg y cylchoedd rwy’n troi ynddynt i geisio labelu pawb a phopeth a ffitio pobl a’i syniadau i mewn i focsys. Mae’n rhaid i mi gyfaddef mod i gyda’r gwaethaf am syrthio i’r twll yma. Mae’n wir yn y cylchoedd gwleidyddol a diwylliannol dwi’n troi ynddyn nhw – un cyfaill yn ‘sosialydd’, y llall yn ‘anarchydd-syndicalaidd’ ac ambell i un yn meiddio cydnabod ei fod yn ‘gyfalafwr’ di-edifar. Ond mae’r ffenomenon ar ei waethaf ymysg Cristnogion. Y dewis mawr ffurfiannol fe ymddengys yw nid dewis rhwng dilyn Iesu neu Famon ond yn hytrach penderfynu a ydych chi’n ‘Armin’ neu’n ‘Galfinydd’. Yna, ydych chi’n ‘ddiwygiedig’ neu’n ‘garismatig’; heb sôn wrth gwrs am y label mwyaf dadlennol oll – ydych chi’n galw eich hun yn ‘efengylaidd’?

Dwi wedi brwydro yn erbyn y duedd yma o fabwysiadu label heblaw am ‘Cristion’ ers blynyddoedd ond eto dwi’n cael fy hun yn syrthio nôl dro ar ôl tro ac yn gweld fy hun yn labelu fy hun. Yn amlach na pheidio mae’r labeli yn adwaith yn erbyn rhywbeth. Pan ffydd Cristnogion ffwndamentalaidd yr arddel y label ‘efengylaidd’ a balchder bydd hynny’n peri i mi bellhau fy hun. Fe wnes i flogio wythnos diwethaf yn trafod beth yw’r gwahaniaeth rhwng ffwndamentaliaeth ac efengyliaeth. Ond wedyn pan fydda i’n gweld pobl, gan gynnwys Cristnogion rhyddfrydol, yn lladd ar Gristnogion ‘efengylaidd’ am gredu pethau hollol sylfaenol i’r ffydd Gristnogaeth fel yr ail-eni neu ddilorni pobl sy’n credu yn y gwyrthiau yna rwy’n cael fy hun yn rhuthro i amddiffyn y safbwynt ‘efengylaidd’ drachefn.

Mae hwn yn gwestiwn hefyd sy’n codi yn fy nhraethawd ymchwil. Dyma oedd un o brif feirniadaethau Robert Pope (fy nhiwtor) o’r drafft diwethaf. Dydw i ddim yn gyson wrth labelu Tudur Jones, a lle rydw i’n mentro ei labelu rwy’n anghofio neu o leiaf yn methu diffinio’r label mewn ffordd sy’n argyhoeddi. A oedd Tudur yn Gristion Calfinaidd? ‘Oedd,’ medd y rhan fwyaf. Os felly sut mae diffinio’n union beth yw’r safbwynt Calfinaidd gan ei fod yn ysgol eang o fewn y traddodiad Protestannaidd? Mae llawer yn dadlau heddiw na fyddai Calfin ei hun yn cyfri ei hun yn Galfinydd yn ôl dehongliad rhai pobl o’r safbwynt Calfinaidd! Ond y label mwyaf problematig eto mewn perthynas a Tudur Jones yw’r label ‘efengylaidd’. Mae llawer yn credu ei fod yn ‘efengylaidd’ (‘e’ fach!) ond yr un mor sicr nad oedd yn ‘Efengylaidd’ (‘E’ fawr!). Ond sut mae trafod ac esbonio graddau mor fychan o wahaniaethau (neu ganfyddiadau?) yn fodlonol mewn traethawd academaidd?

Yn ei gyfrolau enwog Ffydd ac Argyfwng Cenedl mae Tudur yn sôn am y ‘Cytgord Efengylaidd’ sef, yn y bôn, Calfiniaeth gymedrol. Ffurf ar y ffydd Gristnogol oedd yn ddaionus ei dylanwad yng Ngymru yn ysbrydol ac yn ddiwylliannol yn ôl Tudur. Ond wrth adolygu cyfrol gyntaf Ffydd ac Argyfwng Cenedl mynegodd Harri Williams ei ddymuniad i Tudur Jones, yn yr ail gyfrol, gyflwyno ‘diffiniad gofalus o’r hyn a olygir wrth y ‘Cytgord Efengylaidd.” Er na cheir diffinio taclus yn yr ail gyfrol fe ellir troi at gyhoeddiad mwy diweddar i geisio math o ddiffiniad o’r hyn yr oedd Tudur Jones yn ei olygu wrth sôn am ‘gytgord efengylaidd’. Yn ei bamffled Pwy yw’r bobl efengylaidd? mae R. Tudur Jones yn awgrymu fod y traddodiad hwn yn hawlio pedwar nodwedd arbennig:

  1. Yn gyntaf, dysgai’r traddodiad mai gair Duw yw’r Beibl, gair i ymddiried ynddo, i’w gredu ac i weithredu mewn ufudd-dod iddo.
  2. Yn ail, dysgir fod marwolaeth ac atgyfodiad Iesu yn ffeithiau a bod credu hyn yn rhan o hanfod y wir ffydd.
  3. Yn drydydd, dysgir fod yn rhaid i bawb ymwrthod â drygioni a’u hunanoldeb, hynny yw pechod, drwy brofi tröedigaeth.
  4. Ac yn bedwaredd, dysgir bod y ffydd Gristnogol yn rhywbeth ymarferol ac i’w arfer a’i weithredu ym mywydau bob dydd Cristnogion; ond fod cadwedigaeth wedi’i seilio ar ffydd drwy ras ac nid drwy ymdrech a gweithredoedd.

Unwaith eto felly, yn ôl y dehongliad hwn, rwy’n hapus i gael fy nghyfri’n un o’r bobl efengylaidd. Ond wedyn, mae’n siŵr fydd rhyw Gristnogion ‘efengylaidd’ ar y teledu heno yn codi stŵr am rhyw eilbeth ac y bydda i’n pellhau o’r label unwaith eto. Yn hynny o beth felly mae’n gysur fod fy ffydd i wedi wreiddio mewn gwirionedd nid mewn unrhyw label na thraddodiad ond yn Iesu ei hun.

Please follow and like us: