cutWythnos yma dwi’n cymryd seibiant o’r PhD a gwahanol bethau eraill sydd fel arfer ar fy mhlât i weithio ar y ffilm fer gyntaf mewn cyfres gobeithio. Dydy hi’n ddim byd newydd i Gristnogion gynhyrchu ffilmiau byr er mwyn rhannu eu ffydd i bobl sydd a diddordeb gwylio a gwrando. Er enghraifft yn y byd Saesneg mae ffilmiau NOOMA Rob Bell wedi bod yn dra ddylanwadol. Hyd yn oed os na wnewch chi werthfawrogi neges Bell maen rhaid i chi edmygu creadigrwydd a safon saethu a chynhyrchu’r ffilmiau. Fy ffefryn i yng nghyfres NOMMA ydy’r cyntaf un NOOMA 001 -Rain. Fodd bynnag, yn ôl yr arfer, does dim stwff fel hyn gyda ni yn Gymraeg.

Yn y gorffennol dwi wedi trio creu pethau amaturaidd, maen siŵr mae’r enwocaf ydy’r ffilm ‘Stori Lewis’ sydd wedi derbyn cannoedd o hits ar YouTube. Er fod y cynnwys yn ddifyr, mae safon y cynhyrchu yn amlwg amaturaidd – ond eto maen ddigon dderbyniol pan gofiwch fod y cyfan yn home made job. Y bwriad yn awr yw creu ffilmiau o safon proffesiynol yn arddull ffilmiau NOOMA Rob Bell. Ni fydda nhw yn gyfieithiadau o ffilmiau Rob Bell nac ychwaith yn addasiadau. Mi fyddan nhw yn ffilmiau hollol wreiddiol eu cynnwys ond eto yn tynnu ysbrydoliaeth o dechneg ffilmograffi a storïol Rob Bell. Hynny yw, yn hytrach na phregethu “Credwch yn Iesu Grist!” mi fyddwn ni yn adrodd stori, ac ergyd y stori fydd fod Iesu eisiau i ni ei ddilyn. Mi fydd yna bregeth o ryw fath yn y ffilm, ond bydd y bregeth yna mewn ffordd subtle fydd yn gwneud i bobl feddwl drostyn nhw eu hunain. Thema’r ffilm gyntaf ydy “Derbyniad”. Dydw ddim mynd i ddatgelu mwy am y plot yn lle mod i’n sbwylio’r ffilm i chi!

Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru wedi rhoi nawdd hael iawn i’r prosiect sydd yn golygu ein bod ni’n medru gweithio gyda chyfarwyddwr proffesiynol ac rydym ni’n falch iawn fod Iwan England ar gael i weithio gyda ni wythnos nesa. Mae’r nawdd ariannol hefyd yn golygu ein bod ni’n medru llogi camera ac offer sain safonol, mi fyddwn ni felly yn saethu mewn HD. Dwi wedi sgriptio a fi fydd yr adroddwyr, Aled Ifan sy’n cynhyrchu ac Iwan England sy’n saethu a chyfarwyddo. Mae Menna wedi bod yn golygu’r sgript ac mae gwahanol ffrindiau eraill wedi rhoi mewnbwn adeiladol a defnyddiol. Does ganddo ni neb eto i wneud y te a’r coffi felly cysylltwch os a diddordeb! Hefyd fydd rhai o bobl ifanc Bangor yn ymddangos mewn rhai golygfeydd yn y ffilm. Fi wedyn fydd yn torri’r cyfan ar Final Cut, dim ond express sydd efo fi ond dwi’n meddwl/gobeithio fydd hynny’n ddigon!

Yr amserlen ydy:
Llun: Paratoi
Mawrth: Ffilmio
Mercher: Ffilmio
Iau: Golygu
Gwener: Golygu

Bydd angen i mi redeg y cut heibio Iwan ac Aled ychydig o weithiau cyn ei roi yn gyhoeddus felly efallai y bydd hi’n ddiwedd y mis cyn bod y ffilm yn cael ei ryddhau yn gyhoeddus. Ond gobeithio y bydda i’n gallu torri a rhyddhau rhyw fath o trailer sneek peak cyn hynny. Ein gobaith yw y byddwn ni’n medru cylchredeg y ffilm ar y we ond hefyd gobeithio y gallwn ni ei ryddhau ar DVD gyda phecyn all eglwysi ddefnyddio i greu rhyw fath o noson o drafodaeth yn y capel ei hun neu mewn gaffi, neuadd bentref neu dafarn. Dangos y ffilm dros baned ar ddechrau’r noson ac yna cyfle i bobl drafod ac ymateb i’r themâu sy’n cael eu codi yn y ffilm. Un peth dydyn ni heb weithio allan eto ydy enw i’r prosiect.

Er mai ‘Derbyniad’ fydd teitl tebygol y ffilm gyntaf does dim enw gyda ni i’r brand yn gyfan eto. Mae popeth jest yn swnio braidd yn naff yn Gymraeg. Darganfod? Chwilio? Ysbryd? (gyda llaw NOOMA ydy ‘ysbryd’ yn yr iaith Roeg) Meddwl? Cylchoedd? Dwi’n methu’n deg a meddwl am enw da a bachog i’r gyfres a’r brand. Felly gadewch mi wybod yn y sylwadau os ddowch chi i feddwl am enw da i’r cyfan. Dydw i ddim yn siŵr os caf i amser i flogio wythnos nesaf i adrodd sut mae pethau’n mynd, ond maen siŵr iawn y bydda i’n trydar drwy’r wythnos yn sôn sut mae pethau’n dod yn eu blaen.

Please follow and like us: