Mae’n beth ffasiynol dyddiau yma i gynadleddau Cristnogol ddechrau gyda ffilm ddramatig sy’n ysbrydoli a gosod cywair i’r gynhadledd. Dyma sut mae cynadleddau Holy Trinity Brompton (dolen i’w ffilm nhw) ac yn fwyaf enwog cynadleddau Hillsong yn cychwyn. Eleni penderfynodd Souled Out Cymru eu bod nhw eisiau ffilm debyg fel rhan o’u cynhadledd nhw a ches i’r fraint o gynhyrchu’r ffilm. Yn naturiol roedd cyllideb y prosiect yn gyfyngedig i gymharu a ffilmiau Holy Trinity a Hillsong (o edrych ar eu ffilmiau nhw rwy’n tybio fod yr holl gynhyrchiad wedi costio miloedd os nad degau o filoedd) fodd bynnag roeddwn i am wneud y gorau medrwn gyda’r gyllideb a’r amser oedd ar gael. I chi’r geeks dyma bostiad yn trafod ‘the making of’.
Y briff ges i oedd rhywbeth tebyg i ffilmiau Holy Trinity a Hillsong ond a blas Cymreig. Meryl (Souled Out) wnaeth baratoi y sgript/teitlau oedd yn seiliedig ar wahanol rannau o’r Testament Newydd. Y ffordd orau o roi naws Gymreig i’r ffilm heb iddo fynd ar ôl cliches (rygbi, corau, cenin pedr ayyb…) oedd cynnwys llawer o dirwedd Cymru yn y ffilm. Felly am ddau ddiwrnod cyntaf y ffilmio wnes i grwydro o gwmpas Gwynedd yn ffilmio clipiau tirwedd. Dyma oedd y lleoliadau:
Mae’r shots tu mewn o lyfrau, offerynnau, pobl ayyb.. yn bennaf wedi eu ffilmio yng Nghaernarfon ag eithrio dau glip llyfrgell oedd gen i ac hefyd clipiau o gigs yn Eisteddfod Dinbych.
O ran yr offer roeddwn i’n defnyddio, y camera oedd y Canon 7D yn defnyddio 17-40mm f/4 L a’r 70-200mm f/2.8 L ar gyfer y shots tirwedd wedyn defnyddio’r 50mm f/1.4 a’r 40mm f/2.8 ar gyfer y shots erill. I’m tyb i y darn o offer weithiodd yn dda i gael y shots tirwedd i edrych yn ddramatig oedd defnyddio Glidetrack. Yr un sydd gen i yw’r Glidetrack SD 1m. Ffilmiwyd y cyfan yn 24fps mewn HD llawn.
O ran golygu’r ffilm roeddwn i’n gyntaf yn trosi’r holl ddeunydd craidd mewn i Apple ProRes 442 yn defnyddio MPEG Streamclip, rhaglen drosi fideo rhad ac am ddim sy’n wych iawn. Yna roeddwn i’n agor y clipiau i gyd yn Final Cut X ac yn graddio’r lliwiau, miniogi a gosod yr effaith Boke ar bob clip (mae’n edrych yn neis, ond os fydda i byth eisiau defnyddio’r clipiau mewn prosiect arall yn y dyfodol bydda i’n difaru hyn!).
Yna roeddwn i’n torri’r cyfan at ei gilydd yn Final Cut Pro 7. Wnes i wneud y teitlau hefyd yn Final Cut Pro 7, roedd eisiau’r teitlau eithaf syml felly roedd gwneud y teitlau mewn rhaglen arall/arbenigol yn ychydig o over kill.
Fe ges i’r gerddoriaeth o Audio Network, byddai comisiynu a defnyddio rhywbeth gwreiddiol wedi bod yn neis, ond eto cyllideb ac amser ddim yn caniatáu.
Dyna ni – diolch i Souled Out ag Eglwys Bresbyteraidd Cymru am y cyfle i weithio ar y ffilm – mwynhewch:
Souled Out Cymru 2013 from Rhys Llwyd on Vimeo.
Da iawn.