Am ddeuddydd wythnos nesaf dwi’n cael seibiant o Gaernarfon, gwaith yr Eglwysi a’r PhD ac yn teithio lawr i Gaerdydd er mwyn ffilmio Torri Syched 002 a 003. Fe wnaethom ni ffilmio Torri Syched 001 fis Chwefror ac o’r diwedd ‘dy ni’n cael cyfle nawr i ffilmio’r ddau ffilm nesaf yn y gyfres. Cyfres o ffilmiau byrion ydy Torri Syched sy’n ceisio annog pobl i feddwl am gwestiynau ffydd. Rydym ni’n ceisio osgoi pregethu at bobl ynddyn nhw ac yn hytrach yn ceisio gwneud i bobl feddwl drostyn nhw eu hunain. Rhannu nid pregethu a meddwl nid mwydro pobl.

Yr ysbrydoliaeth i gynhyrchu ffilmiau fel hyn oedd cyfres ddylanwadol NOOMA gan Rob Bell. Yn bersonol mae ffilmiau Rob Bell wedi fy nghynorthwyo gryn dipyn dros y blynyddoedd diwethaf i ddarganfod ffyrdd amgen a chreadigol o feddwl am gwestiynau pwysig ynglŷn a Duw, dynoliaeth a’r greadigaeth. Mae rhai yn feirniadol o arddull Rob Bell gan nad ydy’r ffilmiau yn esbonio athrawiaethau craidd y ffydd Gristnogol; mae’n siŵr y bydd rhai yn taflu’r un feirniadaeth i gyfeiriad ein ffilmiau ni. Ond nid dyna yw eu pwrpas, eu pwrpas yn ddigon gwylaidd yw rhoi pobl ar ben ffordd a chael pobl i gychwyn meddwl. Mae gan Eglwysi bethau fel eu cyrsiau Alffa, Darganfod Cristnogaeth ac ati sy’n gallu mynd a pobl at wraidd y mater wedyn. Yn y Gymru sydd ohoni roeddem ni’n teimlo mae’r hyn oedd angen ar hyn o bryd oedd cyfres o ffilmiau oedd yn gwahodd pobl i ddechrau agor eu calonnau a’u meddyliau i’r posibilrwydd fod gan ffydd yn Nuw le yn eu bywydau rhywle.

Thema Torri Syched 001 oedd ‘Derbyniad’, sut mae Duw yn ein derbyn ni fel ydym ni. Dyma hi i chi sydd heb ei gweld eto.

Torri Syched 001 | Derbyniad from Torri Syched on Vimeo.

Thema Torri Syched 002 fydd fod Duw yn ein digoni, yn ein llenwi ni. Thema Torri Syched 003 fydd fod Duw yn dal ein dyfodol ni ac o bwyso ar hyn fod modd byw bywyd heddiw i’w gyflawnder.

Dros y penwythnos fe wna i flogio am ochr dechnegol i prosiect i chi sydd a diddordeb.

Please follow and like us: