Dwi’n ffotograffydd anghonfensiynol ond yn llawn dychymyg. Heb dderbyn unrhyw hyfforddiant ond wrth fy modd yn arbrofi. Dwi ar gael i dynnu lluniau yn ardal Caernarfon, Bangor a’r Gogledd-Orllewin ar gyfer:
- Cylchgronau a Phapurau Newydd
- Deunydd hyrwyddo cwmni, artist, actor, cerddor ayyb…
- Cofnodi digwyddiadau, cynadleddau ayyb…
- Lluniau o ddigwyddiadau teuluol fel priodasau (ewch draw i fy ngwefan www.lluniaupriodas.com)
Cysylltwch i drafod argaeledd a phrisiau. Bydd y rhan fwyaf o’r prosiectau oddeutu £20 yr awr + costau.
Rydw i hefyd yn trwyddedu rhai o fy lluniau trwy asiantaeth Alamy. Cliciwch yma i weld y lluniau o’m heiddo sydd ar werth trwy Alamy ar hyn o bryd.
Offer rwy’n defnyddio
- Canon EOS 5D Mk.iii
- Canon EOS 7D
- Fujifilm FinePix X100
- Canon 17-40mm f/4.0 L
- Canon 70-200mm f/2.8 L
- Sigma 35mm F1.4 DG HSM | A
- Canon Speedlite 580E
Cleientiaid diweddar
- Y Selar (Lluniau o amrywiol fandiau)
- Y Galeri, Caernarfon (Lluniau o ddigwyddiad)
- Seiont Riverside Camping (Lluniau hyrwyddo)
- Prifysgol Bangor (Lluniau o delynores)
- Gwasg Carreg Gwlach (Llun i glawr llyfr)
- Barn (Lluniau newyddiadurol)
- Amrywiol briodasau
Portffolio
Priodasau (mwy ar lluniaupriodas.com)