Dwi’n ffilmio pwt byr fory i’r rhaglen Pethe, S4C. Mae’r rhaglen yn trafod perthynas Ffydd a Gwleidyddiaeth ac ar ddechrau’r eitem cyn y drafodaeth mi fydda nhw’n chwarae clip bach ohona i yn trafod rhai syniadau. Dyma rhai pethau dwi am drio cyfleu yn fyr a syml iawn.

Amhosib i’r Cristion wahanu ei ffydd oddi wrth ei wleidyddiaeth oherwydd ar ôl i chi roi eich ffydd yn Iesu mae’r Cristion yn ymrwymo i ddilyn Iesu a gadael iddo lywodraethu ar bob rhan o’i fywyd, gan gynnwys ei wleidyddiaeth.

Ond mae rhai Cristnogion yn cadw eu ffydd yn breifat, ei gadw ar yr aelwyd ac yn y capel. Ond dydy’r Cristnogion yma heb ddeall cyfanrwydd Arglwyddiaeth Iesu dros eu bywyd yn gyfan, nid dim ond rhannau ohono.

Mae’n wir fod yna densiwn o fath yn y ffydd Gristnogol rhwng y personol ar un llaw ac yna byw’r ffydd drwy weithredoedd yn gyhoeddus ar y naill. Ond mae’r cyfan yn mynd law yn llaw, nid nai llai neu yw hi. Un dyfyniad ar y pwnc yma dwi’n ei ddefnyddio’n aml ydy un o eiddo Jim Wallis:

“Faith is personal but should never be private.”

Dwi’n cofio ffrind i mi’n dweud unwaith fod yr Hen Destament yn adain Dde ac fod y Testament Newydd yn adain chwith. Ond mewn gwirionedd mae e’n anghywir a hyd yn oed yn beryglus i ni drio ffitio dysgeidiaeth y Beibl i mewn i’n bocsys bach taclus ni.

Y gwir amdani yw mae nid sosialwyr oedd y Cristnogion cyntaf – ond yn syml iawn jest Cristnogion oedden nhw!

Felly mae’n amhosib dweud yn ddu a gwyn fod Cristnogaeth yn adain dde neu’n adain chwith.

O safbwynt y chwith mae’n gywir i nodi fod Cristnogion yn credu mewn cyfiawnder a thegwch ac eu bod nhw’n credu fod dyletswydd ganddynt i gymryd ochr y tlawd. Ond mae llawer o Gristnogion yn amheus o sosialaeth a chomiwnyddiaeth oherwydd eu bod nhw, ar y cyfan, yn gyfundrefnau syniadaethol sy’n wrthwynebus i’r syniad o’r dwyfol. Dros y byd mae’r Eglwys Gristnogol wedi cael ei erlid gan lywodraethau sosialaidd a chomiwnyddol – mae hynny wedi caledu llawer o Gristnogion tuag at wleidyddiaeth adain chwith.

O safbwynt Adain Dde mae’r syniad fod cyfrifoldeb gan bawb dros ei weithredoedd ei hun yn ogystal a gwerthoedd traddodiadol am ardal, bro a theulu yn werthoedd mae’r Cristion hefyd yn eu harddel. Fodd bynnag mae gadael i elw ac arian i lywodraethu yn wrthun i’r Cristion ac hefyd dydy’r Cristion ddim yn gyfforddus gyda’r math o unigolyddiaeth sy’n arwain at hunanoldeb, pawb drosto ef ei hun, sydd ar y dde yn wleidyddol.

I’r Cristion mae e i gyd i wneud a penarglwyddiaeth Crist.

Cymerwch chi gyfalafiaeth. Mae cyfalafiaeth sydd jest ag elw yn y canol yn amlwg yn anghywir ond os ydy dyn busnes neu fancwr yn gwneud ei waith gan gydnabod penarglwyddiaeth Crist dros y cyfan mae’n ddarlun gwahanol. Bydd bancwr sy’n gadael i Iesu yn hytrach nag elw lywodraethu ei benderfyniadau ddim yn cymryd mantais dros bobl eraill.

Does dim o’i le ar fenthyg arian. Ond mae’r Beibl yn glir fod codi llog yn anghywir, felly mae rhai agweddau o gyfalafiaeth yn amlwg yn wrthun i’r Cristion.

Y gwir amdani yw fod rhywbeth yn gyrru pawb. Felly dwi ddim yn meddwl y dylai Cristnogion orfod ymddiheuro am adael i’w ffydd i lywio eu gwerthoedd gwleidyddol.

Mae pawb yn dilyn rhyw dduw – ‘d’ fach – ac mae Duw y Cristion, Iesu Grist, yn rhoi llawer o arweiniad i’w ddilynwyr ar foeseg a chyfiawnder. Mi fuaswn i fel Cristion yn ffôl wrth droi at y gwleidyddol yn anwybyddu’r arweiniad yna.

“Dadlau o blaid y mud, a thros achos yr holl rai diobaith.” Diarhebion.

Nid geiriau adain dde Edmund Burk nac adain chwith Karl Marx ydy rheiny ond geiriau Duw y Cristion.

Please follow and like us: