Er mwyn nodi 100 mlwyddiant geni R. Tudur Jones cefais y fraint o draddodi darlith dan nawdd Eglwys Ebeneser, Caerdydd. Dyma grynodeb o’r hyn a rennais ar y noson. Read it in English here.

Ydy Dr. Tudur dal yn berthnasol?

Yr haf cyn i mi ddechrau fy ngwaith ymchwil yn 2006 dwi’n cofio mynd i dderbyniad ym mhabell Prifysgol Bangor lle’r oedd pwysigion y Brifysgol yn fy nghyflwyno i a nifer o fyfyrwyr eraill oedd wedi derbyn ysgoloriaethau ac ar fin dechrau ar eu hastudiaethau. I chi sy’n gyfarwydd gyda’r derbyniadau yma byddwch yn gwybod fod y gwin coch yn llifo ac yn llifo’n rhwydd, a tua diwedd y noson cefais fy nghorneli a’m herio gan rywun y caiff aros yn anhysbys: “R. Tudur Jones? Pam wyt ti eisiau gwneud ymchwil mewn i ffigwr mor geidwadol ac amherthnasol?”

Bymtheg mlynedd yn ddiweddarach mae maes ymchwil ‘Cenedlaetholdeb Cristnogol’ wedi dod yn faes bywiog a phwysig iawn o ganlyniad i’r rôl annisgwyl ac anffodus y mae rhai arweinwyr crefyddol wedi ei chwarae wrth gefnogi Donald Trump yn yr UDA, ac i raddau llai Brexit yn y Deyrnas Unedig. Yr hyn sy’n gwneud y datblygiadau yn frawychus o safbwynt Cristnogol yw fod llawer o’r twf mewn cenedlaetholdeb adweithiol yn menthyg rhethreg crefydd. Maen nhw wedi llwyddo i werthu eu math o genedlaetholdeb fel petasai’n ‘Genedlaetholdeb Cristnogol’.

Mae nifer o lyfrau Saesneg wedi eu cyhoeddi’n ddiweddar yn trafod sut mae ideoleg honedig ‘Gristnogol’ wedi cyfrannu at dwf ‘white supremacy’, yn arbennig yn yr Unol Daleithiau. Felly, yn annisgwyl efallai, mae gan R. Tudur Jones a’r traddodiad Cymreig o Genedlaetholdeb Cristnogol lawer i’w ddweud wrth y byd a chymdeithas heddiw. Roedd yr heriwr anhysbys yn nerbyniad Prifysgol Bangor yn anghywir – mae R. Tudur Jones yn berthnasol o hyd!

Cenedlaetholdeb Cristnogol?

Cyn bwrw ymlaen, mae’n bwysig gwneud un peth yn glir: ni ellir cymeradwyo cenedlaetholdeb yn anfeirniadol o safbwynt Cristnogol. Yn dibynnu ar ei natur gellir ei wrthwynebu neu ei gofleidio. Mae cenedlaetholdeb yn ideoleg wag – hynny yw, dydy e ddim yn ideoleg sy’n gallu sefyll ar ei draed ei hun fel, dyweder, Marcsiaeth. Mae cenedlaetholdeb yn gorfod mabwysiadu ideolegau eraill er mwyn bod yn ystyrlon.

Felly o safbwynt Cristnogol mae’n amhosib gwrthwynebu neu groesawu cenedlaetholdeb heb holi yn gyntaf pa fath o genedlaetholdeb sydd dan sylw?

Mae’n amlwg i bawb y gall cenedlaetholdeb fod yn eilun, yn enwedig pan mae’n gysylltiedig ag ideolegau eraill fel ffasgaeth a hiliaeth. Gwelwyd penllanw’r math yma o genedlaetholdeb yn Natsïaeth yr Almaen. Hefyd yn agwedd Ymerodraethol Prydain a gwledydd y Gorllewin. Ac yn fwy diweddar yng nghenedlaetholdeb “Cristnogol” UDA wrth weld mwyafrif o Gristnogion “efengylaidd gwyn” yn cefnogi Donald Trump.

Fodd bynnag, mae’n bwysig i ni fel Cymry gofio y gall cenedlaetholdeb diniwed yr olwg fod yn eilyn hefyd. Os rhywbeth mae’n haws i’n cenedlaetholdeb ni fod yn eilyn gan y bydd hynny’n digwydd mewn ffordd llawer mwy cynnil gan fod natur ein cenedlaetholdeb ni’n heddychlon ac addfwyn. Mae cenedlaetholdeb y gwn a’r fyddin yn haws i’w adnabod fel eilyn na chenedlaetholdeb cerdd dant a’r eisteddfod. Efallai fod cenedlaetholdeb eilunaddolgar ychydig bach fel anadl ddrwg – ‘dy chi’n ei arogli ar eraill ond yn methu ei arogli arnoch chi eich hun.

Un o gyfraniadau mwyaf R. Tudur Jones oedd ein helpu i weld fod cenedlaetholdeb iach Cristnogol yn gallu bodoli, sef math o genedlaetholdeb oedd yn hyrwyddo a dathlu diwylliannau lleiafrifol fel diwylliant Cymru. Nid yn unig fod y math o genedlaetholdeb a ddatblygodd yng Nghymru yn gallu cael ei oddef gan Gristnogion; ond fe ddylid ei gofleidio fel modd i ddiogelu a meithrin y math o ddynoliaeth a chreadigaeth yr oedd Duw wedi’i bwriadu o’r dechrau. Harddwch o ddynoliaeth sy’n dangos undod mewn amrywiaeth.

Beth am her syniadau R. Tudur Jones am genedlaetholdeb i heddiw?

I chi sydd wedi bod yn dilyn datblygiadau’r mudiad cenedlaethol yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf byddwch yn ymwybodol fod tipyn o sgwrs wedi bod ynglŷn â phenderfyniad y mudiad YesCymru i aros y niwtral pan mae’n dod i amrediad o gwestiynau gwleidyddol penodol. Maen nhw o blaid annibyniaeth, ond tu hwnt i hynny maen nhw’n fwriadol amwys er mwyn ceisio bod yn eang eu hapêl.

O ganlyniad maen nhw wedi eu beirniadu am beidio bod yn fwy clir am y math o Gymru y byddent yn dymuno i’r Gymru annibynnol fod. Yr amwysedd yma sydd wedi arwain at sefydlu mudiadau eraill fel Undod. Mae Undod yn ymgyrchu dros annibyniaeth hefyd, ond yn gwneud hynny o blatfform clir o blaid gwleidyddiaeth sydd ar y chwith.

Wrth ddilyn y datblygiadau yma dros y blynyddoedd diwethaf dwi wedi bod yn crafu pen wrth ofyn: be’ fyddai gan R. Tudur Jones i ddweud am hyn? Yn benodol, be fyddai ganddo i ddweud am y perygl o gefnogi cenedlaetholdeb neu fudiad yn anfeirniadol? A tybed a fyddai yn galw ar YesCymru i fod yn fwy clir ynglŷn â beth yw seiliau ideolegol ac athronyddol eu credo gwleidyddol?

Drwy beidio bod yn glir ynglŷn â beth yw diben annibyniaeth a beth yw sail ideolegol eich cenedlaetholdeb yna mae perygl i’r “achos” ddod yn ddiben ynddo fe ei hun, neu yn eilyn os hoffech. Yn yr un ffordd a wnaeth R. Tudur Jones gynnig asesiad a beirniadaeth o seiliau athronyddol Adfer yn y 1970au, rwy’n meddwl ei bod hi’n gyfrifoldeb arnom fel Cristnogion heddiw i graffu ar fudiadau fel YesCymru ac Undod hefyd. Nid er mwyn eu tanseilio – i’r gwrthwyneb – oherwydd ein bod yn eu cefnogi ac yn ewyllysio eu llwyddiant. Ond rydym yn dymuno llwyddiant iddynt wedi ei wreiddio mewn ideolegol cadarn er mwyn creu ohoni Gymru decach sy’n adlewyrchu’n well werthoedd Teyrnas Dduw nac yw’r Gymru sydd ohoni ar hyn o bryd.

Cristnogaeth Efengylaidd

Yr ail reswm fod R. Tudur Jones yn parhau i fod yn berthnasol yw oherwydd ei fod wedi pwyso a mesur dylanwad Cristnogaeth Efengylaidd, ac yn arbennig felly dylanwad (neu ddiffyg) y traddodiad hwnnw ar y sffêr wleidyddol. Wrth ystyried y rôl flaenllaw yr oedd gan nifer o Gristnogion “efengylaidd” yn yr UDA yn hyrwyddo cenedlaetholdeb honedig Cristnogol Donald Trump mae’n deg troi ein golwg nesaf at gyflwr Cristnogaeth Efengylaidd heddiw.

Yn fy marn i roedd R. Tudur Jones o flaen ei amser yn gweld y shifft oedd yn digwydd o fewn y byd efengylaidd erbyn canol y 1990au. Shifft i ffwrdd o Gristnogaeth ‘efengylaidd’ glasurol (Cristnogaeth Efengylaidd Thomas Charles Y Bala, William Willberforce ayyb.) ac i gyfeiriad ffwndamentaliaeth. Gwelodd y perygl allai ddod wrth i’r ffwndamentaliaeth yma gysylltu Cristnogaeth Efengylaidd gyda’r dde yn wleidyddol ac felly hefyd gyda chenedlaetholdeb afiach.

Yn 1995 cyhoeddodd bamffled dan y teitl: ‘Pwy yw’r bobl efengylaidd?’ Un o’r pethau mwyaf difyr ynddo yw tabl sy’n esbonio’r gwahaniaeth rhwng ‘ffwndamentaliaeth’ ac ‘efengyliaeth’. Y pwynt mwyaf perthnasol i’r drafodaeth hon am genedlaetholdeb yw ei fod yn gweld fod ffwndamentaliaeth yn: “caniatáu i’w diwylliant ddylanwadu ar eu credoau. Er enghraifft, y mae rhai ohonynt yn cefnogi hilyddiaeth neu’n mabwysiadau polisïau adweithiol yr adain dde mewn gwleidyddiaeth.” Ar y llaw arall fod efengylwyr yn: “Ceisio rhoi cyfle i’r Beibl herio a beirniadu diwylliant gan gynnwys eu diwylliant eu hunain.” 

Wrth i ni wneud synnwyr o’r dryswch ddaeth i’w ben llanw wrth i’r mwyafrif o ‘efengylwyr gwyn’ UDA bleidleisio o blaid ‘Cenedlaetholdeb Cristnogol’ Donald Trump rwy’n credu fod y ffordd roedd Dr. Tudur y gwahaniaethu rhwng ‘ffwndamentaliaeth’ ac ‘efengyliaeth’ yn gymorth. Neu, a’i roi ffordd arall, pan mae llawer yn sôn am “efengylwyr” heddiw, mewn gwirionedd siarad y maen nhw am “ffwndamentalwyr”.

Mewn ymateb i’r datblygiad yma mae’n bwysig ein bod ni Gristnogion sy’n perthyn i draddodiad Efengylaidd Cymreig siarad allan yn erbyn y shifft yma o efengyliaeth glasurol tuag at ffwndamentaliaeth. Rwy’n credu mai rhan o’r broblem yw bod y traddodiad efengylaidd yn swil o graffu arni hi ei hun a chynnig hunanfeirniadaeth. Rwy’n credu fod yna ddau reswm pam fod y traddodiad efengylaidd yn araf i gynnig hunanfeirniadaeth:

Yn gyntaf, oherwydd ei fod wedi bod yn brysur yn cynnig beirniadaeth, deg ar adegau, o draddodiadau eraill, yn arbennig rhyddfrydiaeth ddiwinyddol. Rwy’n cofio darllen erthygl unwaith yn dwyn y teitl “Evangelicalism has no right wing border.” Ergyd yr erthygl oedd pwyntio allan fod y traddodiad efengylaidd yn gwarchod ei ffin ar y chwith yn ofnadwy o lym, ond eto fod ei ffin ar y dde wedi mynd fel y wild west; a dyna lle mae ffwndamentaliaeth wedi bwrw gwreiddyn. Fel yr wyf wedi dweud o’r blaen: nid Cristnogaeth Efengylaidd yw’r broblem ond mae gan Gristnogaeth Efengylaidd broblem.

O fy mhrofiad i y prif rwystr i bobl heddiw weld gogoniant Iesu yw nid dryswch diwinyddiaeth Ryddfrydol y ganrif ddiwethaf ond yn hytrach caledwch diwinyddol ffwndamentaliaeth y ganrif yma. Ac felly dylai’r traddodiad efengylaidd wneud mwy o ymdrech wrth ymateb a chondemnio tueddiadau ffwndamentalaidd oddi fewn i’w teulu.

Y prif fygythiad i dystiolaeth yr eglwys Gristnogol ar droad yr ugeinfed ganrif, fel sydd wedi ei esbonio mewn ffordd athrylithgar yn Ffydd ac Argyfwng Cenedl gan R. Tudur Jones, oedd rhyddfrydiaeth ddiwinyddol. Ond erbyn troad yr unfed ganrif ar hunain mae’n deg i ddweud mai ffwndamentaliaeth ddaeth i greu’r dryswch mwyaf.

Yr ail reswm pam fod y traddodiad efengylaidd yn araf i gynnig hunanfeirniadaeth yw oherwydd bod yr ymdrech gywir am undod ymhlith pobl efengylaidd wedi arwain at ddiwylliant eglwysig lle nad ydy pobl yn gallu nac yn gwybod sut i drafod gwahaniaethau mewn ffordd adeiladol. Mae hyn, i raddau, oherwydd bod pobl sy’n dal safbwynt ceidwadol yn methu byw gyda’r tensiwn fod yna safbwyntiau eraill dilys. Hynny yw, dydy fframwaith diwinyddiaeth geidwadol ddim yn caniatáu gofod i’r paradocs nad oes yna un ateb cywir weithiau. Dyma sy’n arwain at weld y lleisiau mwyaf proffwydol oddi mewn i’r traddodiad Efengylaidd gael eu alltudio’n aml gan yr adain mwyaf ceidwadol – o Steve Chalk i Tony Campolo – tra fod lleisiau mwy ffwndamentalaidd yn cael aros o fewn y teulu.

Dwi’n credu fod diffiniad eang Dr. Tudur o ‘pwy yw’r bobl efengylaidd?’ yn ddefnyddiol a chyfoethog. Rwy’n credu fod trafodaeth a diffiniadau R. Tudur Jones ynglŷn â beth yn union yw Cristnogaeth efengylaidd yn ein galluogi i ymrafael a her ffwndamentaliaeth. Ond, teg gofyn y cwestiwn a ydy’r difrod wedi ei wneud yn barod ac felly tybed oes angen i ni sy’n Gristnogion efengylaidd nad sy’n ffwndamentalwyr roi’r gorau i ddefnyddio’r enw a’r label ‘efengylaidd’ bellach?

Please follow and like us: