Dwi’n eithriadol o brysur ar hyn o bryd rhwng yr hyn a’r llall. Mae pethau’n ferw gwyllt gyda gweithgaredd Cymdeithas yr Iaith ar hyn o bryd gan fod yr LCO Iaith yn cael ei gyhoeddi ben bore Llun yn ôl pob tebyg, mae gen i sawl job dylunio yn ei ganol ac mi rydw i, wrth gwrs, yn ddiwyd yn llunio penod gyntaf fy thesis PhD terfynol hefyd! Felly dim amser i athronyddu am ddim byd mewn manylder ar hyn o bryd dim ond gair i ddweud mod i dal ar dir y byw a chyflwyno fideo arall wnes i baratoi yn ddiweddar i’r Gymdeithas. Pob hwyl! :
Please follow and like us: