Mae wedi bod yn freuddwyd gennai ers tro i wneud un o deithiau Paul yr Apostol. Dwi ddim ar fin gwneud, nid yw amser nac arian yn caniatáu ar hyn o bryd; ond dyma nodi yn fras yr hyn baswn ni’n gobeithio ei gyflawni. Y man cychwyn fyddai Jerwsalem gan orffen y daith yn Rhufain. Cyfuno ei deithiau drwy Roeg gyda’i daith olaf i Rufain fyddai’n ddelfrydol. Yr unig ddefnydd o awyren y carwn wneud fyddai hedfan i Jerwsalem o’r DG ar y dechrau a hedfan adref i Gymru o Rufain ar y diwedd. Rhwng Jerwsalem a Rhufain fe fuaswn ni’n ceisio defnyddio trên, bws a bad yn unig – ddim cweit yn gamelod ond yn well na hedfan o un lle i’r llall!

Fodd bynnag ni fydd cyrraedd Jerwsalem yn hawdd oherwydd ers 2001 nid oes yna faes awyr yn Jerwsalem! Byddai rhaid hedfan i Tel Aviv, o Dachwedd 2007 mae Thomson yn rhedeg tair awyren bob wythnos yna o Lundain am £79.99. Beth am deithio o Tel Aviv i Jerwsalem ar drên wedyn? Dim gobaith cyn 2012, dyna pryd fydd y linell o Tel Aviv i Jerwsalem yn agor! Mae pawb sydd yn fy adnabod yn gwybod am fy ffobia o fysys… o diar.

O wel, dwi’n benderfynol o wneud y daith o Jerwsalem i Rufain rhywbryd ac ar ôl potsian ar y wê am ychydig funudau maen reit amlwg y bydd trefnu y daith, pan ddaw’r amser, yn debygol o fod yn dipyn o her a phen tost.

Please follow and like us: