Pan ro’ ni’n fach roeddem ni arfer codi estyll tywod ar y traeth, yn y Borth ger Aberystwyth. Roeddem ni wrthi trwy’r dydd yn adeiladu’r castell mwyaf crand erioed. Yna roeddem ni’n paratoi ar gyfer y llanw. Yn cloddio ditches i ddelio ar dwr oedd yn taro yn erbyn y castell. Yn codi muriau uchel i warchod y castell. Ond doedd dim ots faint oeddem ni’n trio amddiffyn y castell roedd y llanw wastad rhy gryf.
Weithiau dyma sut mae bod yn Gymro Cymraeg yn teimlo.
Mae pobl yn dweud wrthym ni fod angen i ni wneud mwy ein hunain, angen i ni gymryd cyfrifoldeb dros yr iaith. Ond os ydy’r llanw yn dod mewn a ninnau heb unrhyw ffordd o’i stopio mae ein holl waith yn dod i ddim. Fe allwn ni wneud beth a fedrw ni i gadw ein cymunedau Cymraeg yn fyw – ond mae’n rhaid i’r gwleidyddion fynd i’r afael a’r llanw.
Mae’n rhaid mynd i’r afael a’r ffaith fod y mewnlifiad i sawl cymuned Gymraeg yn anghynaladwy a bod yr all-lifiad o Gymry ifanc oherwydd diffyg gwaith yn drychineb.
Rwy’n falch fod Cymdeithas yr Iaith heddiw yn cyhoeddi rhai awgrymiadau ymarferol sut mae mynd i’r afael a’r broblem yma. Er enghraifft, cyn bob datblygiad tai dylai yna asesiad gael ei wneud ar effaith y datblygiad ar yr iaith Gymraeg. Dylai pob tŷ, nid un neu ddau ohonyn nhw, ond pob tŷ fod yn dŷ sy’n fforddiadwy i bobl leol. Gyda digon ohonyn nhw’n fforddiadwy i brynwyr cyntaf. Dylai canran ohonyn nhw fod yn dai da ar rent hefyd. Ac os nad yw’r datblygiad yn ticio’r blychau yma yna ni ddylai’r datblygiad gael ei ganiatáu.
Un o broblemau mwyaf y stoc dai ydy ail-gartrefi, neu fel rydym ni’n fwy cyfarwydd a’u galw: tai haf. Mae Cymdeithas yr Iaith yn argymell codi lefel sylweddol uwch o dreth cyngor ar Dai Haf ac yna ail fuddsoddi yr arian hwnnw mewn i stoc dai i bobl leol.
Mae yna gamau cwbwl ymarferol y gall y gwleidyddion ar lefel sirol a chenedlaethol eu cymryd. Ac mae’r math yma o fesurau eisoes mewn lle mewn ardaloedd o bwysigrwydd diwylliannol yn Lloegr – fel ardal y llynnoedd. Nid mater o hil yw hyn – ond economeg sy’n effeithio ar diwylliant.
Ond – y cwestiwn yw, a oes gan ein gwleidyddion ewyllys wleidyddol i gymryd y camau angenrheidiol yma?
Gadewch i fi ddarllen beth ddywedodd y Cenedlaetholwr Diwyllianol Ed Milliband ddoe: “If we are going to build One Nation, we need to start with everyone in Britain knowing how to speak English. We should expect that of people that come here.”
Roedd ymateb y darlledwr Hardeep Sing yn dda: “funny but when the British colonised India they didn’t feel the need to learn the language”
Ond beth am newid ambell i air yn nyfyniad Ed Milliband: “If we are going to build One Nation, we need to start with everyone in Wales knowing how to speak Welsh. We should expect that of people that come here.”
Rhyfedd sut mae rhywbeth mae gwleidydd proffesiynol mewn siwt yn ei ddweud yn ddigon derbyniol. Ond yna pan fo Cymry yn eu cymunedau yn dweud yr union run peth rydym ni’n cael ein cyhuddo o fod yn gul ac yn eithafol.
Mae rhai pobl wedi dweud wythnos hyn fod popeth ddim yn ddrwg. Fod dim angen i ni ddi-galoni oherwydd o leiaf fod yr ymdeimlad o hunaniaeth Gymreig yn cynyddu. Ac yn araf deg mae datganoli yn mynd a ni’n nes ac yn nes at y Gymry Rydd.
Ond a siarad yn blaen ac yn onest nawr – does gen i ddim fawr o ddiddordeb mewn hunaniaeth Gymreig sydd wedi gadael y Gymraeg ar ôl. A does gen i ddim llawer o ddiddordeb mewn Cymru Rydd os nad yw honno’n Gymru Rydd Gymraeg!
Araith tu hwnt o effeithiol. Mae angen i’r llywodraethau ar bob lefel weithredu ar fyrder ym mhob ffordd posibl i ddiogelu’r Gymraeg.
Cofia, efaillai daw ateb oddi wrth rhai tebyg i eiddo chwedlonol Brenin Denmarc a Lloegr ar droad y mileniwm diwethaf, Cnut Fawr: ni all hyd yn oed y llywodraethwr grymusaf fedru rheoli llanw a thrai y môr.