Nos Sul fuesi yn pregethu ym Mhenrallt, eglwys y Bedyddwyr Saesneg ym Mangor. Roeddw ni’n nyrfys racs cyn y gwasanaeth gan fod fy holl fywyd ysbrydol, ac eithrio gwrando ar rai pregethwyr o’r Amerig ar y wê, yn cael ei fyw’n uniaith Gymraeg. Ond dwi’n meddwl i’r Ysbryd Glan gario’r bregeth yn diwedd. Yn y darlleniad ar y dechrau a’r weddi ar y diwedd rydych chi’n gweld gliriaf mod i’n amddifad o’r eirfa Gristnogol Saesneg!
Ar ôl concro’r nyrfs wnes i fwynhau’r gwasanaeth yn fawr. Roedd hi’n braf cael pregethu o flaen cynulleidfa fawr ac ifanc ac roedd hi’n grêt gweld pobl yn rowlio chwerthin ar ben fy jôcs – jôcs sy’n syrthio’n fflat ar ei wyneb wrth eu trio mewn eglwysi Cymraeg fel rheol! Ond yr hyn oedd mwyaf cadarnhaol am y gwasanaeth oedd cael pobl o bob oed yn diolch i mi a dweud bod Duw wedi siarad gyda nhw trwy’r bregeth; roedd hynny’n anogaeth.
Gobeithio caf i gyfle i bregethu mwy yn Saesneg yn y dyfodol ond rwy’n dal yn sicr mae i dystiolaethu trwy’r Eglwysi Cymraeg mae Duw wedi fy ngalw.