Ddoe fe wnes i rannu fod y Beibl yn ein dysgu i barchu a gweddïo dros ein harweinwyr gwleidyddol ond fod hynny ddim yn golygu rhoi ein ffydd ddall ynddyn nhw. Mae’n gywir i gwestiynu cymhellion, ac mae’n gywir i’w dal yn atebol. Ac nid oes dim o’i le mewn gwrthwynebu llywodraeth y dydd neu’r status quo os ydy hynny’n golygu ufuddhau i werthoedd uwch Teyrnas Dduw. Roedd gweithred y Doethion o beidio ufuddhau i Herod yn dangos fod anuffudd-dod i bwerau gwleidyddol y dydd weithiau’n angenrheidiol er mwyn bod yn ufudd i alwad Iesu.
Ond beth am ymwneud y Cristion gyda gwleidyddiaeth mewn ffordd adeiladol?
Mae’n amlwg fod Teyrnas Dduw a thuedd tuag at bobl sydd ddim yn cael chware teg a chyfiawnder yn y byd fel y mae. Edrychwch ar y geiriau wnaeth Iesu eu hadrodd pan ddechreuodd ei weinidogaeth gyhoeddus yn Nasareth yn Luc 4:
“Safodd ar ei draed i ddarllen o’r ysgrifau sanctaidd. Sgrôl proffwydoliaeth Eseia gafodd ei rhoi iddo, a dyma fe’n ei hagor, a dod o hyd i’r darn sy’n dweud: ‘Mae Ysbryd yr Arglwydd arna i, oherwydd mae wedi fy eneinio i i gyhoeddi newyddion da i bobl dlawd. Mae wedi fy anfon i gyhoeddi fod y rhai sy’n gaeth i gael rhyddid, a phobl sy’n ddall i gael eu golwg yn ôl, a’r rhai sy’n cael eu cam-drin i ddianc o afael y gormeswr, a dweud hefyd fod y flwyddyn i’r Arglwydd ddangos ei ffafr wedi dod.’”
Luc 4
Er nad dod i bregethu efengyl wleidyddol wnaeth Iesu. Mae’n amlwg fod yna oblygiadau gwleidyddol i efengyl Iesu. Ac ymhlith yr oblygiadau yna mae consyrn arbennig am y tlawd, y caeth a’r di-lais. O ganlyniad rwy’n credu y dylai lles pobl felly mewn cymdeithas fod yn flaenllaw ym meddwl y Cristion wrth benderfynu sut i bleidleisio.
Mae brwdfrydedd Cristnogion ac eglwysi trwy’r wlad yn sefydlu a rhedeg Banciau Bwyd i’w nodi a’i edmygu ond fel Cristnogion dylem ddweud a gwneud rhywbeth ynglŷn â’r achos pam fod pobl yn troi at Fanciau Bwyd i ddechrau gan beidio bod ag ofn cael ein gweld yn cyffwrdd a chwestiynau gwleidyddol weithiau. Fel y dywedodd Hélder Câmara, Archesgob Catholig o Frasil unwaith: “When I give food to the poor, they call me a saint. When I ask why they are poor, they call me a communist.”
Mi roedd yna lun yn cylchredeg ar y cyfryngau cymdeithasol wythnos diwethaf oedd yn dangos poster home-made mewn ffenestr rhywle oedd yn dweud: “Think of the most vulnerable person you know, and vote in their best interests.” Dwi’n meddwl fod hwnna yn egwyddor y gallwn ni fel Cristnogion bwyso arno cyn gwneud ein penderfyniad ddydd Iau.
Mwy o ystyriaethau eto fory…