Ddoe fe wnes i rannu fod Teyrnas Dduw a thuedd tuag at bobl sydd ddim yn cael chware teg a chyfiawnder yn y byd fel y mae – y tlawd, y caeth a’r di-lais. O ganlyniad roeddwn i’n rhannu fy nghred y dylai lles pobl felly mewn cymdeithas fod yn flaenllaw ym meddwl y Cristion wrth benderfynu sut i bleidleisio.

Heddiw dwi’n troi fy sylw at ffenomenon “Fake News” a’r duedd ddiweddar o weld gwleidyddion yn osgoi cael eu sgrwtineiddio. Y gwir amdani yw fod dim byd newydd dan yr haul. Roedd arweinwyr gwleidyddol hyd yn oed yn amser y Beibl yn llac gyda’r gwirionedd os oedd hynny’n gweithio o’u plaid – roedd geiriau ffals Herod i’r Doethion yn ceisio cuddio ei wir gymhellion yn enghraifft o wleidydd yn lledu math o “Fake News” reit yng nghanol stori’r Nadolig cyntaf.

Dwi ddim yn meddwl ei fod yn gyd-ddigwyddiad fod y pwysau mae pobl yn rhoi ar wirionedd yn lleihau wrth i gymdeithas hefyd gredu llai a llai yn Nuw yn Iesu Grist oedd yn honni mae fe oedd “y ffordd, y gwirionedd a’r bywyd.” Mewn cyd-destun diwylliannol sy’n gwadu’r syniad fod yna’r fath beth a gwirionedd cyffredinol mae gwleidyddion yn cael rhwydd hynt i ddweud pethau fydden nhw byth yn cael dweud a pharhau mewn bywyd cyhoeddus genhedlaeth yn ôl.

Mae cymeriad gwleidydd yn bwysig. Mae gwybod fod rhywun yn dweud y gwir yr un mor bwysig, bron yn bwysicach, na beth yw eu polisïau.

Er na allwn ddisgwyl i wleidyddion sydd ddim yn rhannu ein ffydd fyw fel disgyblion i Iesu – mae yna ryw lefel sylfaenol o gymeriad rydym yn disgwyl gan bawb sydd am wasanaethu mewn bywyd cyhoeddus, os ydyn nhw yn rhannu ein ffydd neu beidio. Felly i’m tyb i mae pwyso a mesur cymeriad gwleidydd yn ystyriaeth yr un mor bwysig i’r Cristion ag ydyw pwyso a mesur eu polisïau.

Yn olaf, gair am genedlaetholdeb. Bydd rhai yn gwybod mod i wedi treulio (neu wastraffu!) bron i bum mlynedd o’m bywyd yn astudio PhD mewn i berthynas Cristnogaeth a Chenedlaetholdeb. Ar y pryd roedd llawer yn dweud fod y pwnc yn amherthnasol ond ddeg mlynedd yn ddiweddarach mae wedi profi i fod yn bwnc perthnasol iawn. Cenedlaetholdeb sydd wedi bod yn gyrru agenda Brexit, cenedlaetholdeb yr SNP sy’n cynhyrfu pethau yn yr Alban, cenedlaetholdeb sydd tu ôl i brosiect ‘Get Brexit Done’/’One Nation’ Boris Johnson a chenedlaetholdeb sydd tu ôl i ymgyrchoedd YES Cymru a Phlaid Cymru yma. Mae cenedlaetholdeb yn rym real yn ein gwleidyddiaeth heddiw. Beth ddylai ymateb y Cristion fod?

Wel, o geisio crynhoi’r PhD mewn i ychydig frawddegau: mae’n dibynnu! Mae yna wahanol fathau o genedlaetholdeb – mae gyda chi genedlaetholdeb sy’n gwneud ‘duw’ o’r genedl – mae’r math yma o genedlaetholdeb yn eilunaddolgar ac mi ddylai’r Cristion ei wrthwynebu yn syth. Ond mae yna fath arall o genedlaetholdeb sef un sy’n dathlu’r egwyddor Feiblaidd o ‘undod mewn amrywiaeth’. Ar ôl pwyso a mesur dwi’n meddwl y gall ac y dylai’r Cristion gefnogi’r math yma o genedlaetholdeb. Mae’n amlwg i bawb fod cenedlaetholdeb Adam Price, er enghraifft, yn gwbl wahanol i genedlaetholdeb Nigel Farage.

Felly i gloi, ewch allan i bleidleisio ddydd iau. Pleidleisiwch gan adael i werthoedd Teyrnas Dduw lywio eich penderfyniad.

Dylai’r Cristion ddiystyru pleidleisio i UKIP a’r Brexit Party yn syth. Er nad ydw i’n dweud na allwch chi fod yn Gristion a phleidleisio i’r Ceidwadwyr, a phwyso a mesur yr ystyriaethau dwi wedi rhannu yn y tair erthygl yma, i mi o leiaf ni fyddwn i fel Cristion yn gallu ystyried pleidleisio drostynt.

Mae hynny yn gadael yr SNP, Y Blaid Werdd, Llafur, Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru. Dan wahanol amgylchiadau ac yn byw mewn gwahanol etholaethau dros y Deyrnas Unedig gallaf weld fy hun yn pleidleisio i bob un o’r pleidiau hynny yn eu tro. Ond yma yng Ngogledd Orllewin Cymru dim ond un blaid sy’n ticio’r blwch ‘bias tuag at y tlawd a’r di-lais’ a hefyd anrhydeddu’r egwyddor o ‘undod mewn amrywiaeth’ pan mae’n dod i iaith, diwylliant a chenhedloedd.

Ond beth bynnag fydd y canlyniad fore dydd Gwener cofiwch y bydd Brenin Brenhinoedd dal ar ei orsedd.

Please follow and like us: