Byddai rhai yn cwestiynu a ydy hi’n briodol i arweinwyr eglwysig drafod pynciau gwleidyddol o gwbl. Yn bersonol rwy’n ei weld yn ddyletswydd cyhyd a bod hynny’n cael ei wneud yn ofalus. Mae’r eglwys ar wahanol adegau wedi cael y balans yn anghywir. Bu cyfnodau lle syrthiodd yr eglwys Gristnogol yn ysglyfaeth i bwerau gwleidyddol y dydd ac wedi dod yn rhan o beiriant propaganda llywodraeth neu blaid wleidyddol. Bu cyfnodau hefyd lle ciliodd yr eglwys o gwestiynau gwleidyddol yn llwyr. Perygl yr eithaf yma yw bod y byd yn methu gweld perthnasedd ein ffydd a bod gwleidyddiaeth a diwylliant yn cael ei adael i bobl sydd ddim yn rhannu ein gwerthoedd.
Gan ei bod hi yn dymor y Nadolig dwi’n meddwl fod hanes y Doethion a’r Brenin Herod yn berthnasol. Yn yr hanes yn Mathew 2 rydym yn gweld Herod, yr arweinydd gwleidyddol, yn teimlo dan fygythiad wrth glywed fod yna Frenin arall wedi ei eni sef Iesu. Fel llawer o arweinwyr gwleidyddol mae Herod yn mynd ati i geisio manipiwleiddio’r sefyllfa o’i blaid. Mae Duw yn dangos cymhellion amhur Herod i’r Doethion ac wedyn mewn gweithred o anuffudd-dod sifil (o fath) maen nhw’n gwrthod ei gais i alw heibio iddo i adrodd am Iesu ac maen nhw’n dewis teithio adref ffordd wahanol.
Er bod y Beibl yn ein dysgu i barchu a gweddïo dros ein harweinwyr gwleidyddol dydy hynny ddim yn golygu rhoi ein ffydd ddall ynddyn nhw. Mae’n gywir i gwestiynu cymhellion, ac mae’n gywir i’w dal yn atebol. Mae’r ffaith fod Herod yn gweld dyfodiad y Brenin Iesu fel bygythiad yn ein hatgoffa fod galwad Teyrnas Dduw weithiau yn ein galw i wrthod teyrnasoedd y byd. Mae’r hanes yma yn ein hatgoffa ni fel Cristnogion fod ein teyrngarwch cyntaf i Iesu.
Ac felly yng ngoleuni hynny yr ydym yn pwyso a mesur pwy y dylem bleidleisio drosto.