earthYn ddiweddar fe gyfarfu criw o wyddonwyr yn Llundain i gael eu croesholi gan wleidyddion ynglŷn a’r posibiliadau o geobeiriannu, hynny yw geoengineering. Hynny yw y syniad yma fod yn rhaid i ni bellach, gan ei bod hi wedi mynd mor wael, i ni wneud newidiadau artiffisial i’r hinsawdd er mwyn tynnu thermostat y ddaear i lawr rhyw fymryn – er enghraifft gwasgaru dwst yn y gofod er mwyn ein cysgodi rhag yr haul neu blannu drychau enfawr yn y gofod er mwyn adlewyrchu’r gwres o’r haul i ffwrdd.

Rhai degawdau yn ôl mi fyddai’r fath awgrymiadau’n anathema i wyddonwyr; wedi cyfan ein newidiadau artiffisial i’r hinsawdd drwy ein llosgi di-ben-draw ni o CO2 sydd wedi ein cael ni i’r picil yma yn y lle cyntaf. Ond y farn gynyddol ymysg gwyddonwyr nawr yw fod yna “tipping point” wedi cyrraedd a bod gwneud dim yn llawer gwaeth na unrhyw sgil effaith ddaw o geobeiriannu. Dyma’r un feddylfryd mae’r gwyddonydd hinsawdd James Lovelock wedi ei fabwysiadu; roedd ef yn un o ymddiriedolwyr Cyfeillion y Ddaear ond bellach mae nhw wedi torri cysylltiad ag ef gan ei fod yn cefnogi Pŵer Niwclear gan fod pethau mor ddifrifol. Gwell y risg o’r Niwclear na’r effeithiau sy’n sicr o ddod o gynnydd parhau yn ein defnydd o CO2 medd Lovelock.

Mae’r cyfan yn swnio yn yn reit sci-fi, rhoi drychau enfawr yn y gofod ac yn y blaen, ond mae tipyn yn cael ei wneud yn barod. Dyma’r gwahanol ddyfeisiadau geobeiriannu y gellid ei ddatblygu yn ôl y gwyddonwyr:

Geobeiriannu

Amser:
* = Barod mewn blynyddoedd
** = Barod o fewn degawdau
*** = Barod o fewn canrifoedd

Cost:
£ = Rhatach na’r gost o leihau allyrron carbon
££ = Drytach na’r gost o leihau allyrron carbon
£££ = Lleihau allyrron carbon yn sylweddol rhatach

Drychau yn y Gofod
Drychau’n adlewyrchu pelydrau’r haul
Amser: ***
Cost: £££
Diffyg: Sgil effeithiau anwadal ar dywydd rhannau o’r byd

Coed Artiffisial
Sugno CO2 o’r awyr a’i storio dan ddaear.
Amser: **
Cost: £££
Diffyg: Byddai angen storfa sylweddol dan ddaear.

Ail-Goedwigo
Coed yn amsugno CO2
Amser: **
Cost: £
Diffyg: Angen tir ac arwynebedd sylweddol mewn ardal ffrwython a chymedrol

Gwrteithio’r Môr
Gwasgaru haearn yn y moroedd sy’n ysgogi plankton sydd yn eu tro yn bwyta CO2
Amser: **
Cost: ££
Diffyg: Gall gael effaith niweidiol i system-eco’r moroedd

Ond, yn ôl y disgwyl mae yn lawer o wleidyddiaeth tu ôl i hyn; gwleidyddiaeth ddiplomyddol hyd yn oed. Gallasai rhai o’r cynlluniau er enghraifft ddod a lles i’r ddaear a dynoliaeth yn gyfan ond gall ddod a sychder lwyr i rhai rhannau o’r byd yn ei sgil. Gan fod y cyfan yn artiffisial gall wyddonwyr byth fod yn hollol sicr beth fydd y sgil-effeithiau a pha wledydd byddai’n cael eu heffeithio’n fwyf difrifol. Mater arall i’w ystyried ydy defnydd anghyfrifol o fesurau o’r fath at ddiben milwrol. Mae gwyddonwyr o’r farn y byddai rhaid i unrhyw gynlluniau gael eu penderfynu arnyn nhw ar lefel yr UN ac na fyddai modd i un neu rai wledydd yn unig daro mlaen a chynlluniau fel hyn ar eu pen eu hunain oherwydd nad ydy’r hinsawdd yn eiddo, o’r rheidrwydd, i unrhyw genedl benodol.

Yn y dyfodol efallai mae nid y “botwm coch” y byddwn ni gyd yn ei ofidio ond “y botwm gwyrdd”!

Ffynhonell:
Earth’s Plan B yn New Scientist, 28 Chwefror 2009

Please follow and like us: