Wedi dechrau darllen Cofiant Dafydd Êl. Mae’r bennod gyntaf—sy’n portreadu ei fagwraeth fel “Mab y Pregethwr” yn Llanrwst y 1940au a’r 50au—yn gofnod hynod ddifyr, ac yn bwysig iawn, o’r hen gymuned Gymraeg anghydffurfiol.
Fodd bynnag, mae’n ein hatgoffa—yn enwedig drwy gyfweliadau ffrindiau i’r teulu gyda’r awdur—pa mor orthrymol, ac ar ei waethaf pa mor greulon, y gallai dylanwad y “capel” fod. Mae’n ddychrynllyd darllen sut y gallai eglwys Dduw gael ei chipio a’i rheoli gan y Seiri Rhyddion a’r bourgeoisie Cymraeg cefnog.
O dan y fath amgylchiadau, nid oes dim syndod o gwbl fod sawl cenhedlaeth o Gymry wedi troi cefn ar y capel—ac, a dweud y gwir, dyna’n union y byddwn innau wedi’i wneud hefyd!
Ni fydd yr eglwys byth yn berffaith ac mae pob cenhedlaeth yn wynebu heriau gwahanol, ond dwi’n ddiolchgar iawn fy mod i yn cael bod yn Weinidog mewn oes mor wahanol i’r cyfnod y daeth Dafydd Êl i oed.
Efallai fod ein capeli heddiw yn llai o ran niferoedd, a ddim yn dal yr un dylanwad diwylliannol, ond mewn sawl ystyr maent yn llefydd llawer iachach, ac—gobeithio—yn fwy triw i hanfod y genhadaeth Gristnogol.
Glanha dy Eglwys, Iesu mawr
ei grym yw bod yn lân;
sancteiddia’i gweddi yn ei gwaith
a phura hi’n y tân.

