Dydy e ddim yn ffasiynol i sôn am y tywydd. Ond maen annodd peidio yr haf yma. Dwi’n synnu mod i hyd yn oed wedi galw’r cyfnod yma o’r flwyddyn yn haf. Roeddwn ni’n disgwyl ymlaen i gael mwynhau gwneud fy ngwaith ymchwil a darllen allan yn yr ardd – heb ddim byd arall yn mynd am sylw – jest fi a’r llyfr yn mwynhau yn yr haul. Breuddwyd gwrach oedd gobeithio gael Mehefin a Gorffennaf tebyg. A beth am weddill yr haf? Wel dydy penwythnos yma yn gwella dim. Glaw fory, cymylau dydd Sadwrn a mwy o law dydd Sul a dydd Llun (gweler y mapiau).

Mae rhai wedi sôn fod yna ‘heat wave’ ar y ffordd erbyn dechrau Awst, wythnos yr Eisteddfod. Ddim yn ôl y dyn tywydd yn anffodus. Dyma’r mae’r BBC yn ei ddweud am ddiwedd Gorffennaf dechrau Awst:

Some sunshine in the south: The Azores High may at last begin to assert itself in our direction and some southern areas of the UK can expect the weather to be a little drier and warmer – northern areas will be the last to see any improvement, if at all.

Wellingtons bydd hi dwi’n amau!

Please follow and like us: