Roeddwn i’n pori’n ail gyfrol Ffydd ac Argyfwng Cenedl gan Tudur p’nawma; mewn un pennod mae’n adrodd am yr arfer oedd arfer bodoli o alw cyfarfodydd gweddi arbennig yn yr eglwysi Cymraeg er mwyn ymbil ar Dduw i roi glaw mewn amser o sychder. Arfer a ddaeth i ben mewn sawl ardal ac eglwys pan y daethpwyd i gredu, yn anffodus, nad oedd gan Dduw ddim byd i wneud a byd natur ac mae byd y gwyddonydd yn unig ydoedd.

Fodd bynnag, fe’m hatgoffwyd o stori debyg am aelodau Bethany, Rhydaman y rhannodd Mamgu gyda mi unwaith. Mae’n rhaid mae rhywbryd tua’r 1930au oedd hi ac roedd hi’n haf crasboeth. Oni fyddai glaw yn dod yn fuan mi fyddai cnydau Dyffryn Aman i gyd yn methu. Galwodd Nantlais, Gweinidog yr Eglwys ers Diwygiad 04-05, gyfarfod gweddi arbennig i ofyn i Dduw am law. Er ei bod hi’n noson grasboeth arall daeth aelodau Bethany i’r cyfarfod gweddi gyda’i ymbarĂȘls a’i cotiau glaw cymaint oedd eu ffydd yn Nuw.

Wrth iddyn nhw gerdded adref o’r cyfarfod y noson honno dechreuodd hi bigo bwrw.

Please follow and like us: