macbook glossFe wnes i ddarganfod wythnos yma nad ydy pethau fflashi a glossy wastad yn well. Ma ‘da fi MacBook Pro newydd 15”, un o’r rhai ‘unibody’, ac ma da fi hefyd iMac 20” (wel, un y wasg dwi’n dylunio iddi yw e, ond dwi’n gweithio o adre felly yn un i yw e i bob pwrpas!). Dwi wrth fy modd gyda’r ddau beiriant ar y cyfan (er fod y ddau llawer mwy glitchy a buggy nag oedd yr hen PowerBook G4 oedd da fi am bedair mlynedd cyn hynny), ond fe wnes i ddarganfod wythnos yma pam y bu tichan a chwyno am eu sgrins.

Dwi wedi bod yn ffotograffu DSLR ers y nadolig, dwi’n defnyddio Canon EOS 1000d gyda gwydr Canon EF 28-105mm f/3.5-4.5 II USM gan amlaf, a dwi’n cael tipyn o hwyl arni. Wythnos diwethaf fe wnes i archebu fy mhrints cyntaf a hynny drwy Bonus Print, cwmni da a rhad dwi wedi defnyddio sawl tro o’r blaen. Pan gyrhaeddodd y lluniau roedden nhw’n fwy na derbyniol, wedi dweud hynny roedden nhw i gyd ychydig bach yn dywyllach ac yn fwy mwll nag oeddwn wedi ei obeithio.

Wrth gwrs, fe wawriodd arna i wedyn beth oedd wedi mynd o’i le. Sgrins gloss fy MacBook a’r iMac oedd ar fai! Mae sgrins matte yn rhoi dangosydd agosach a mwy onest o’r lliwiau i chi, mae’r sgrins gloss yn eich twyllo ac yn rhoi cam argraff i chi o ddyfnder y lliwiau. Mae hyn wedi fy arwain i drafferth gyda un job dylunio hefyd. Ar glawr Agor Iddo i Gyhoeddiadau’r Gair wnes i osod print du ar gefndir brown. Roedd e’n edrych yn iawn ar y screen proof ond wedyn daeth y print allan yn flêr i gyd i’r pwynt fod y Cyngor Llyfrau wedi cwyno am safon fy nylunio ar y clawr! (Disclaimer/Amddiffyniad: ches i ddim proof print gan y wasg ac os buaswn ni wedi mi fuaswn ni wedi gwneud y newidiadau! Does dim pwynt cwyno ar ôl argraffu, codi pais as ôl pisho… ayyb…).

proofs

Amwn i mae’r wers i ddysgu yw hyn: os ydych chi, fel fi, yn gwneud llawer o waith graffeg yna ewch am yr opsiwn matte bob tro. Os ydych chi’n gweithio ar gloss yn barod yna dysgwch addasu eich techneg rhywfaint a gofyn am print proof pob cyfle posib.

Please follow and like us: