Roeddw ni’n teimlo’n reit ddigalon bore ma ar ôl dychwelyd o Kyiv. Roedd bod yng nghanol bwrlwm y diwygiad yna wedi gwneud i mi sylwi o’r newydd beth oedd dyfnder yr argyfwng a’r tywyllwch ysbrydol a moesol yma yng Nghymru. Fe wnai bostio am Kyiv mewn manylder eto ond yn fras mae Kyiv yn le cyfoethog iawn yn y pethau sy’n cyfri ac mae Cymru’n boenus o dlawd yn y pethau sy’n cyfri. Fodd bynnag, erbyn amser cinio ches i fy nghalanogi rywfaint ar ôl clywed fod Esgobaeth Bangor wedi penderfynnu appwyntio Andy John fel Esgob newydd ac mi fydd hyn, gobeithio, yn agor y ffordd i Andy John olynu Barry Morgan fel Archesgob Cymru. Ar y cyfan mae angen i’r Anglicaniaid wneud mwy nag apwyntio’r bobl cywir i fod yn arf cenhadol blaenllaw yng Nghymru heddiw ond maen gam i’r cyfeiriad cywir gweld Esgob sy’n dilyn efengyl Duw ac nid tueddiadau’r oes yn cael ei apwyntio; chwa o awyr iach.

Archesgob Cymru, Barry Morgan (Dde) ac Esgob newydd Bangor, Andy John (Chwith)
Mae llaw Duw yn amlwg iawn yn yr apwyntiad yma oherwydd ddechrau’r wythnos roedd y dewis o ffefrynnau yn edrych yn llwm iawn a ddim yn dangos unrhyw obaith o gwbl o weld yr Eglwys yng Nghymru yn apwyntio arweinydd newydd fyddai’n ei harwain at hen lwybr y Groes mewn ysbryd newydd. Dwi ddim yn rhy wybodus am ddaliadau a chredodau Anglicaniaid unigol ond dwi’n meddwl mod i’n gywir i ddweud fod Andy John wedi bod yn ddewis tra gwahanol i’r tri arall oedd yn cael eu hystyried fel ffefrynnau ddechrau’r wythnos – Meurig Llwyd, John Holdsworth a’r an-enwog Jeffrey John.
Mae penodiad Andy yn “devine intervention” yn wir.
Diddorol iawn, ac yn newyddion sy’n codi calon ddyn. Rhaid cofio am Esgobaeth Bangoe a’r esgob newydd yn ein gweddiau. ‘Roedd defnydd y gair uniongred yn ddiddorol iawn. A dechreues i feddwl am y gair, o ble mae’n dod, a beth yw ei hanes – dydi o ddim yn air Ysgrythyrol. Sut ma diffinio beth sy’n uniongred, a phwy sy’n diffinio beth sy’n uniongred? Gair defnyddiol iawn yn sicr, ond un sy’n codi lot o gwestyniau hefyd.