Unwaith y mis yng Nghaersalem rydym ni’n cael cyfarfod gweddi ar y cyd gyda Eglwys Bentecostalaidd Caernarfon. Mae nhw’n griw hyfryd o Gristnogion ac mae ganddyn nhw faich a chariad mawr dros bobl Caernarfon – dwi’n edmygu’r gwaith mawr maen nhw’n gwneud gyda plant Sgubor Goch. Mae yna agos i gant yn mynychu eu clwb plant o’r ystâd ac mae’n nhw’n dilyn y peth fyny gyda ymweliadau wythnosol gyda’r teuluoedd i weld beth alla nhw wneud i helpu ac ati. Mae hynny’n weinidogaeth arwrol iawn ac yn gwneud i mi gywilyddio pa mor saff a di-ddannedd yw fy ngweinidogaeth i yn y dref o’i gymharu. Yr unig broblem gyda’i gwaith nhw fel Eglwys yn y dref yw ei fod yn Saesneg! Ie, cenhadaeth Saesneg yng Nghaernarfon! Ond dyna ni, cyn i ni fel Eglwysi Cymraeg eu beirniadu am hynny mae’n rhaid i ni godi ein gêm a chael ein dwylo’n fudur yn ein cenhadaeth ni yn y dref a dysgu gwers o ddalen y Pentecostaliaid.
Yn y cyfarfod misol rydym ni’n cynnal ar y cyd gyda nhw rydym ni’n mynd trwy gyfres DVD Tom Wright, Surprised by Hope ar hyn o bryd. Neithiwr buom ni’n trafod The Hope of the Ressurection. Roedd Tom Wright yn ein herio ni fod ein dealltwriaeth ynglŷn a’r pwnc yma ac ynglŷn a’r byd nesaf yn gyffredinol yn effeithio sut rydym ni’n gweld pethau heddiw ac felly yn effeithio ar natur ein cenhadaeth ni. Mae rhai secwlarwyr yn taflu beirniadaeth ddigon teg at Cristnogion sef fod yna duedd mewn rhai eglwysi i beidio mynd i’r afael a phroblemau’r dydd fel tlodi neu lygredd gan eu bod yn credu eu bod ar y ffordd i fyd arall heb dlodi a llygredd. Ond roedd Tom Wright yn esbonio fod atgyfodiad Iesu yn cyhoeddi (ymysg pethau eraill) fod y byd a’r bywyd newydd wedi dechrau eisoes ac fod atgyfodiad Iesu yn flaenffrwyth o’r atgyfodiad mawr oddi wrth y meirw bydd yn dod i’w chyflawniad pan fydd Iesu’n dychwelyd. Ie, sylwch, Iesu yn dychwelyd yma nid ni i fynd acw.
Mae Caernarfon yn sicr yn dref sydd angen rhywfaint o obaith yr atgyfodiad. Roedd pawb yn gytûn a’r hynny neithiwr ond wedyn mae’n fater mwy cymhleth ceisio ewyllys Duw ynglŷn a sut mae mynd ati i ddangos y gobaith hwnnw. Yn sicr nid drwy flogio am y peth yn unig!