Heddiw roedd y Llywodraeth yn lansio eu strategaeth Addysg Gymraeg sydd, gyda llaw, ddim yn hanner digon uchelgeisiol. Wrth adrodd am y newyddion pwysig yma mae’r BBC wedi llwyddo i rwygo Cymry unwaith eto drwy honi, yn anuniongyrchol, mae nid prif stori ydy’r stori yma ond yn hytrach stori sy’n berthnasol i’r 20% yn unig.
Sylwch sut maen brif stori ar ochr Gymraeg gwefan y BBC ond ar yr ochr Saesneg maen un o’r storiau llai ar y dde. Os ydym ni am weld Cymru wirioneddol ddwyieithog maen rhaid i’r BBC derbyn fod hon yn stori fawr i bob Cymro boed yn siaradwr Cymraeg ei hun neu beidio. Maen hen ffasiwn iawn fod y BBC dal i drin storiau am yr iaith Gymraeg fel rhai sy’n berthnasol i siaradwyr Cymraeg yn unig.