Ar y cyfan dwi’n siomedig iawn, fel pawb arall, gyda Golwg 360 ond dwi’n meddwl fod hi’n bwysig i ni gadw rhai pethau mewn cof cyn taflu’r wefan i’r cŵn. Yn gyntaf, dydy £200,000 yn ddim byd unwaith rwyt ti wedi cymryd cyflogau mewn i ystyriaeth. Yn ail, tybed a ŵydd rhywun faint y byddai cwmni Cymreig da fel, dyweder, Cube wedi codi am osod fyny system gynhwysfawr ar gyfer y wefan? Wn i ddim, ond dwi’n tybio y byddai yn y degau o filoedd. Ond yn fy nhyb i roedd yn fuddsoddiad roedd yn rhaid ei wneud a hynny nid yn lle newyddiadura ond er mwyn rhoi llwyfan da i’r newyddiadura. Yn drydedd, rhaid holi a’i Cyngor Llyfrau Cymru oedd y corff gorau i ddyfarnu’r grant yma yn y lle cyntaf? Pa arbenigaeth sydd gyda nhw ym maes cyfryngau digidol? Tybed pwy oedd ar y panel dyfarnu? A gafwyd unrhyw arbenigwyr o’r tu allan i mewn oedd a profiad ym maes cyfryngau newydd? Yn sicr nid oes arbenigaeth mewnol gan y Cyngor Llyfrau, nid beirniadaeth mo hyn dim ond nodi ffeithiau. Buaswn ni ddim yn gymwys, er enghraifft, i gynghori fy nghariad i pa stiletos i’w wisgo – dwi’n ddi-brofiad a di-glem yn y maes!

Dwi ddim yn ddig o gwbl gyda Ifan a chriw Golwg, i’r gwrthwyneb fe geisia i fy ngorau i gynorthwyo, dwi eisoes wedi darparu deunydd fideo at eu defnydd. Ond mi rydw i’n parhau i fod yn flin gyda’r Llywodraeth am droi cefn ar y BYD. Fel ail-ddewis da mi fuaswn ni wedi bodloni ar gael gwefan fel gwefan, dyweder, y Guardian yn Gymraeg. Ond sori, i mi nid yw gwefan Golwg 360 fel y mae ar hyn o bryd yn gwneud iawn am frad y BYD.

Dwi’n dymuno pob lwc i Ifan a’r criw – ond dau beth sy’n rhaid digwydd ar fyrder. Yn gyntaf rhaid i’r Llywodraeth ymrwymo i gynyddu’r grant i Golwg, dydy £200,000 ddim yn ddigonol o bell ffordd ac mae hyn wedi bod yn boenus o amlwg wythnos yma. Yn ail, mae angen talu cwmni da i weithio ar y wefan yn solid am fis ac yna ei ail-lansio (erbyn ‘steddfod Genedlaethol) ac isadeiledd dechnolegol/dylunio gwell. Maen debyg nad oes cyllideb ar gael ar gyfer hyn, os felly rhaid i’r Llywodraeth roi incwm brys “one off” o rai miloedd i Golwg i wneud hyn.

Ydwi’n byw mewn breuddwyd? Ydw maen siŵr – ond breuddwydiwr oedd Ned Thomas a heb ei freuddwydio ef ni fyddai gyda ni hyd yn oed y wefan hon.

Please follow and like us: